Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Marwnad y Telynor
← Hiraeth y Bardd am ei Wlad | Gwaith Ieuan Brydydd Hir gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Marwnad William Wynn → |
Sion Owen Delynor
MARWNAD SION OWEN.[1]
Anwyl Syr.[2]—E dderyw im', mal y gwelwch, wneuthur Marwnad i Sion Ywain, fy nghyfaill a'm brawd-fardd. Diau fod yn ddrwg gennych glywed y newydd, ond, chwedl y bardd, "Ewyllys Duw yw lles dyn."
Mi a newidiais rai pethau yn y Traethawd Lladin am y Beirdd Brutanaidd, ac yr wyf yn meddwl y bydd raid im' newidiaw rhywfaint yn ychwaneg cyn y byddo gymwys i'w argraffu; o herwydd na fynnwn i neb o blant Alis gael lle i feio arno, na'n Cymry Seisnigaidd ni ein hunain ychwaith, y rhai sydd, mal y gwyddoch, o'r ddau yn goecach.
Y mae gennyf ddau gywydd o waith Sion Ywain, ac ateb a ddanfonais innau i un o naddynt o'm priodwaith fy hun; eithr nid oes gennyf gopi cywir o un o naddynt; o herwydd mi a berais iddaw newidio rhai pethau ynddynt, ac ni chedwais yr un o'r diwygiadau. Y mae gan eich brawd yng Nghaer Gybi gopïau cywirach. Gwell iwch ddanfon ato ef. Ond os gwelwch yn dda, rhag iwch dybied mai diogi sydd arnaf, chwi a gewch y rhai sydd gennyf fi, ar flaen gair, fal y maent.
Nid ydych yn dywedyd yn wahanredol beth yr ydych ar fedr ei brintio. Byddai dda gennyf glywed, mal y cymhwyswyf fy nhraethawd yn well tuag at ei brintio o'u blaen ar ddull rhagymadrodd. Diau im' gymeryd poen wrthaw eisoes; ac mi a gymeraf fwy, os Duw a rydd im' iechyd. A ddanfonasoch at Mr. Wynn o Langynhafal? a pha ateb a gawsoch? Beth a ddywed Llewelyn am y printio yna? Gadewch im' gael ateb cyflawn yn eich llythyr nesaf, a chwi a foddhewch yn fawr Eich rhwymedicaf gyfaill a'ch gwasanaethwr, IEUAN FARDD.
NEWYDD ni a ddaeth,
Acherydd, a thrwch hiraeth;
Marw fu Sion (mawr fy syniad)
Owain ydoedd glain ein gwlad:
Bardd ieuanc, beraidd awen,
Coeth yn y Gymraeg hen.
Trist waith yw torri oes dyn
Enwog iawn yn eginyn.
Ei gof a bair im' ofal,
A gwaedd dost am guddio 'i dal.
Digrif-was aeth, dagrau sydd
I'n brodyr am wiw brydydd;
Galar mawr a gai lawr Mon,
A deu-gwrr Ceredigion,
A Chaer Ludd, chwerw fu y locs,
Ddyn anwyl, ddwyn ei einioes,
Nis oes gerdd, na dysg urddawl,
Na dawn i'n mysg yn dwyn mawl,
Ni wyddiad, gwiw-fad gyfoeth,
Hwn i'w ddydd yn gelfydd goeth.
Teilwng wrth ganu telyn
Oedd ei lais a'i ddwylaw yn'.
Pur ydyw'n iaith Prydain hen
Ei ber gywydd brig awen:
Ei ddadgan a'm diddanai
Mal cân adar mân ym Mai.
Y mae heddyw gwyw y gwŷdd,
Ac ir ddail a gwyrdd ddolydd;
A'r eos, mewn oer awel,
Yn brudd heb na chudd na chel;
A'r adar llafar eu llais
O'r gelli a rygollais.
Y mae ein iaith mwy yn wan,
Ac yn noeth; gwae ni weithian!
Ergyllaeth a ddaeth o ddwyn,
Bore ei ddydd, ein bardd addwyn.
Torrwyd blodeuyn tiriawn,
Aur ei wedd, yn iraidd iawn:
Duw a'i dug, a daed oedd,
Fry'n iefanc i fro nefoedd;
Caiff yno flodeuo'n deg,
A chynnyrch fyth ychwaneg;
Hoenus a fydd heb henaint,
A hardd, heb na gwŷn na haint.
Ni'w llwgr ystorm na gormes,
Neu darthau oer, neu dra thes,
Nac oerfel, nac awel gwynt,
Neu wlaw garw, neu li gerhynt,
Na chenllysg, derfysg dyrf-fawr,
Na'r cira mwy, na'r ia mawr;
Ni ddaw gwyd, ni ddwg adwyth,
Na phren, na blodau, na ffrwyth.
Od aeth ein bardd doeth o'n byd,
Diddan, i fro dedwyddyd,
Mae'n prydu mewn Paradwys,
Ym mysg beirddion gloewon glwys,
A'i delyn fyth yn dolef
Yn ber gyda nifer nef.
Torfoedd disgleir-bryd, dirfawr,
Ein Tad a'n Creawdwr mad mawr,
A ganant fyth â'u genau
Ei fawl, un ni thawl, ni thau;
Ac unllef â'r côr nefawl
Sion fardd a ddadsain ei fawl.
Swyddau y sy wiw addas
Yno a gaiff, enwog was;
A mawredd uwch bonedd byd
A'i freiniau dros fyrr ennyd.
O chafas dda urddas ddwyn,
Gyrraedd iddo gradd addwyn,
Ar foroedd, dyfnderoedd du,
Ar fil-long wrth ryfelu,
A budd, er dwyn trabludd trin
Yn freiniog dros ei frenin;
Mae ei radd, rhaid cyfaddef,
Fry yn uwch dan Frenin nef;
Gan ei fod mewn gwynfyd maith,
Ym mro nef, mawr iawn afiaith,
Yn llon syw, yn llawen sant,
Yn gwenu mewn gogoniant,
Mewn gorfoledd a heddwch
O'r byd, lle mae tristyd trwch.
O'i achos llawenychwn
Ddyrchafael o Dduw hael hwn,
I gu wlad y goleuder,
Gorwych sant, goruwch y ser.