Neidio i'r cynnwys

Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Ieuan Brydydd Hir Gwaith Ieuan Brydydd Hir

gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cynhwysiad

Rhagymadrodd.

AR amser y cymerai llawer ddyddordeb yn llenyddiaeth Cymru y ganwyd Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) yn amaethdy y Gynhawdref, Lledrod, Ceredigion, Mai 20, 1731. Yr oedd i Ieuan athrylith bardd a chywreinrwydd hanesydd, a chafodd gyfrinach Edward Richard, y Morusiaid, Goronwy Owen, Gray, a'r Esgob Percy. Ond dilynwyd ef ar hyd ei oes gan dlodi, gan esgeulusdod esgyb Eingyl ei ddydd, a chan fleiddiaid didrugaredd oedd wedi fagu yn ei natur ei hun.

O ysgol Edward Richard aeth i Goleg Merton yn Rhydychen. Daeth oddiyno, heb radd, i fod yn wibiadur o gurad ar hyd ei oes drafferthus. Yn Nhrefriw daeth i adnabod David Jones a Siôn Powel, yn Llanfair Talhaiarn daeth i adnabod William Wynn. O'r diwedd daeth yn ol at ei deulu i'r Gynhawdref. Yr oedd yn dlawd iawn, a thybid unwaith iddo farw o newyn ar fynydd. Ond yn ei gartref y bu farw, yn Awst 1789; ac y mae ei fedd heb faen na chofnod arno ym mynwent Lledrod.

Ei uchelgais oedd rhoi i'r byd hen hanes a llenyddiaeth Cymru. Ond ni fedrodd wneud, yn ei Dissertatio, ond prin ddangos y ffordd.

D. Silvan Evans roddodd oleu dydd i'w lythyrau ym Mrython Tremadog; ac o'i lafur ef, fy hen athro hoff, yn bennaf, y cesglais y dalennau hyn.

OWEN EDWARDS.

Nodiadau

[golygu]