Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Taith yn Sir Aberteifi
← Yr Esgyb Eingl | Gwaith Ieuan Brydydd Hir gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cyflog Sal iawn → |
TAITH YN SIR ABERTEIFI.
ANWYL Gyfaillt,[1]—Y mae yn fadws im weithian gydnabod o honof dderbyn y llythyrau cywraint a addawsoch es mis a chwaneg; a diolch yn fawr iwch am y gymwynas.
Myfi a fum, wedi ymadael â chwi, yn crwydro yma a thraw, ac nid oes gennyf ddim well i'ch diddanu yr awron na hanes o'm hymdaith. Wele, ynte, ni gychwynwn. Yn gyntaf, myfi a osodais allan o'r Gynhawdref yng nghylch hanner dydd, ac gyrhaeddais waelod Ceredigion, ac a letyais gyda châr im' yng Nghrug Eryr, y man y mae Lewis Glyn Cothi
TREGARON A THEIFI.
yn ei feddwl, pan ddywed am ei berchenog:
Ef yw'r gwr goreu o Grug Eryr
Oddi yno mi aethum drannoeth i ymweled â chyd-golegydd im'; ond, fal yr oedd mwyaf yr anffawd, nid oedd mo hono gartref; ac onid e, ysgatfydd, nad aethwn ddim pellach. Oddi yno, ym mhen dau ddiwrnod, mi a gychwynais tua thref Aber Teifi, man na buaswn erioed o'r blaen. Oddi yno mi a gymerais hynt i eithaf Dyfed, i dref Hwylffordd, lle y gwelais lawer o anrhyfeddodau; sef, hen leoedd y darllenaswn am danynt ym Mrut y Tywysogion, a'r Beirdd; ac ym mysg ereill, Castell Llan Huadain, hen waith gorchestol. Mi aethum oddi yno i Lacharn at Mrs. Bevan, yr hon a'm anrhegodd â holl waith printiedig Mr. Gruffudd Jones. Oddi yno myfi a gyfeiriais tua Chaer Fawr Fyrddin, ar oddeu argraffu Cydfod yr Ysgrythyrau Santaidd; ond methu arnaf gytuno â Mr. Ross, o herwydd nad allwn glywed ar fy nghalon ymddiried i neb am ddiwallu'r wasg, oddigerth fy mod i fy hunan yn gyfagos i fwrw golwg arno. Diau mai argraffydd da ydyw, ac y mae llawer o lyfrau wedi dyfod allan o'i wasg, ac yn gywirach nag yr oeddwn i yn meddwl, ac iaith rhai o honynt yn buraidd ddigymysg. Y mae yn myned yng nghylch printio'r Bibl Cysegrlan â Nodau arno, yr hwn sydd i ddyfod allan bob wythnos, yr un wedd a chyda chwi yn Llundain. Myfi a welais y proposals. Un o'r Methodyddion yw'r gwr sydd wedi cymeryd y gorchwyl gorchestol hwn yn llaw; ei enw, Peter Williams. Ond yw hyn yn gywilydd wyneb i'n gwŷr llên ni o Eglwys Loegr! Y mae Rhagluniaeth Duw ym mhob oes yn cyfodi rhai dynion da. Ni waeth pa enw yn y byd a fo arnynt. Oddi wrth ei ffrwyth yr adnabyddir y pren. Y mae yn dra hynod fod yr ychydig lyfrau Cymreig ag sydd argraffedig, wedi cael eu trefnu a'u lluniaethu, gan mwyaf, gan Ymwahanyddion, ac nad oes ond ychydig nifer wedi eu cyfansoddi gan ein hyffeiriaid ni es mwy na chan mlynedd; a'r rheiny, ysywaeth, yn waethaf o'r cwbl o ran iaith a defnydd. Y mae St. Paul yn dywedyd mai "yr hyn a hauo dyn, hynny hefyd a fêéd efe." Ni ddichon fod ond cnwd sal oddi wrth y cynhaeaf ysprydol pan fo'r gweithwyr mor segur ac ysmala, heb ddwyn dim o bwys y dydd a'r gwres, a'r Esgyb Eingl wedi myned yn fleiddiau rheibus. Duw yn Ei iawn bryd yn ddiau a ofala am Ei eglwys.
I ddyfod unwaith eto o'r tro yma i'r ffordd fawr a'r daith a adawsom ar ol heb ei gorffen; myfi a duthiais o Gaer Fyrddin i Lan Egwad, i weled Cymro cywraint y clywswn lawer o son am dano es cryn ddeng mlynedd o'r blaen, ond na chawswn mo'r odfa hyd yn hyn i ddyfod i'w gyfyl. Dafydd Rhisiart yw ei enw: curad Llan Egwad ydyw; a gwr priod o berchen gwraig a phlant. Y mae, debygwn, dan ddeugain oed. Y mae ganddo gasgliad gwych o'r hen feirdd, ac amryw bethau gorchestol ereill, na welais i erioed o'r blaen mewn un man arall. Y mae, heb law hyn oll, yn ysgolhaig godidog, er na throediodd erioed un o'r ddwy Brifysgol. Os byddwn byw, mi ac yntau, nyni a gynullwn yr hyn a fo gwiw y parthau yma o Gymru. Myfi a nodais, pan oeddwn yno, y pethau mwyaf cywraint, ac y mae yn addaw eu dadysgrifenu. Chwi a gewch glywed ychwaneg am danom, os byw ac iach fyddwch chwi a ninnau.
Unwaith eto at y daith. Mi a ddychwelais o Lan Egwad i Gaer Fyrddin, ac oddi yno y bore drannoeth i Gynwyl Elfed, ac i Ben y Beili yng ngwaelod Ceredigion: methu fyth à gweled fy hen gyfaillt. Oddi yno mi a gychwynais yn drymluog ddigon, ac a ddaethum i Fabwys, ac y syrthiais yn glaf o gryd engiriawl; a chwedi ymiachau unwaith, dygaswn, mi a ail glefychais o fewn y pymthengnos yma. Ond, i Dduw y bo'r diolch, yr wyf unwaith eto ar wellåd: ond y mae fyth ryw bigyn blin yn fy ystlys. Yr wyf yn cyrchu beunydd i lyfrgell Ystrad Meurig, ac yn astudio Plato fawr, a hen gyrff ereill o dir Groeg a'r Eidal. Cymdeithion mwynion iawn ydynt. Ni chefais i mo'm llyfrau o'r gogledd eto; ond y mae'r clochydd, fy hen gyfaill ffyddlon yno, yn mynegi eu bod yn ddigon diogel. Mae yn fy mryd gychwyn tuag at yno o hyn i Galanmai, neu ddanfon rhywun i'w cyrchu, heb ado migwrn odd yno. Y mae hiraeth arnaf eisoes am eu cymdeithas, ond nid oes modd i ddanfon hyd hynny.
Atolwg, beth yr ydych yn arfaethu ei wneuthur o drysorau mawrwyrthiog eich brawd? Ymwrolwch ac ymorolwch, da chwithau, er eu tragwyddoli mewn print.
Y mae gennyf yr awron dair Eglwys i'w wasanaethu, a Chapel Ieuan yn Ystrad Meurig Atolwg, beth yr ydych yn arfaethu ei wneuthur o drysorau mawrwyrthiog eich brawd? Ymwrolwch ac ymorolwch, da chwithau, er eu tragwyddoli mewn print.
Y mae gennyf yr awron dair Eglwys i'w wasanaethu, a Chapel Ieuan yn Ystrad Meurig o honynt. Felly ni lyfasaf fyned ym mhell oddi cartref.
Ni welais mo Mr. Paynter wedi'r diwrnod hwnnw y cymerais fy nghennad oddi wrthych chwi yn y Dafarn Newydd; ond y mae yn fy mryd ymweled ag ef rywbryd tu yma i'r Nadolig. Drwg iawn y newydd oddi wrth Oronwy, druan! Gresyn oedd!
Gadewch im' gael hir llythyr oddi wrthych, a pheidiwch talu drwg am ddrwg; sef gohirio ysgrifenu, fal y gwnaethum i. Cofiwch am roi hir enghraff o gyfieithiad Milton mewn mydr penrydd o eiddo Mr. Williams. Y mae Mr. Richard o Ystrad Meurig yn cofio ei wasanaeth yn garedig atoch.
Eich ffyddlon rwymedig gyfaill,
EVAN EVANS.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Mr. Rhisiart Morys