Neidio i'r cynnwys

Gwaith Iolo Goch/Helynt Euron

Oddi ar Wicidestun
I ddiolch am ariangae Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Dewis ddyn y bardd

VI. HELYNT EURON.

Y FERCH a wisg yn sientli,
Main i hael, a mwyn yw hi.
Ni bu achos nag ystyr,
Er lladd gwen fo'i lluddiodd gwŷr.
Ond i fyned eill deuoedd,
O ddychymig eiddig oedd.
Chwareu synn, chwerw fu'r synwyr,
Cnau i'm llaw, gwell i cnoi'n llwyr;
Cnau i'm llaw, er gwrandaw gwir—
"Minnau biau," eb ohir.

Pam y tau synhwyrau hon,
Amau hyn am i hanfon?

Pwy anfones lles llun
Iolo Goch a'i law gychwyn?

Pam y car, mab o'r lle mae—
Cared o chared chwarae?

"Gad yna," eb y geinferch,
"Am nifer im, myn fy'm serch."—

Pan agorodd i dwylaw,—
"Myn y ne! Nid mwy na naw."

Taflu o eiddig y cnau o'i law,
Ym mysg lludw mawn a llidiaw.—
"Fo fu Iolo gennyd "—
"Pwy a braw hynny? Pa bryd?
"Fo fu gennyd yn fynych."—

"Na fu oni bu na bych."

Fo y'th weled nos Wyl-Fair,
Ti ag ef mewn ty a gwair;
Ag y'th weled Nos Ynyd,
Ti ag ef mewn ty ag yd.
Fy nghred! Pe doethwn atoch,
Gwnaethwn ffo i'r cadno coch!"

"Ni chiliai'r gwas difai da,
Er undyn hyd yr India."

"Celwydd," eb y gwr culael,
"Ciliai neu gelai dy gael."

Cael o eiddig ffarf-ddig fferf,
Crynffon, wialenffon, lownfferf,
Rhoi pwys y ffon ar honno
Ar hyd i phen, bu rhaid ffo.
"Dos allan gynta y gellych."
"Nag a nes gwys, od wy was gwych."

"Dos i ddiawl wenwynawl naid."

"Nag a, syre, neges afraid."


Nodiadau

[golygu]