Neidio i'r cynnwys

Gwaith Iolo Goch/Marwnad Ithel Ddu

Oddi ar Wicidestun
Herdsin Hogl Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Marwnad Dafydd ab Gwilym
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Ithel Ddu
ar Wicipedia


XXXIII. MARWNAD ITHEL DDU.

DIR yw o Fro Feilir Frych,
Deryw, mawr yw'r dewin mawr-wych,
O ruthr gwaew, y waeth ior gwymp
I'r daeardy, dy oer-dymp.
Gwaew o ddolur gwyddelig,
Gwnaeth Duw, a bu ganwaith dig.
Yn anwybod dwyn ebyr,
O'i wanu â phen bwian byr—

Heb air ymladd, bar amlwg.
Trwyddaw ar draws, trwydden ddrwg,
Ni wnai wyddel a'i elyn,
Cyndrwg o hir wg a hyn.

Cwyn mawr is Conwy, yw marw
Ithel ddi-argel eurgarw.
Deryw'r gerdd, aeth yn dir gwydd,
Uwch a'i ryfel. Och o'r aflwydd!
Troed awgrym gwawd tra digrif,
Priddo pen profestydd prif;
Prydydd serchog enwog oedd,
A thrydydd athro ydoedd.
Campau'r mab oedd cwympo merch,
Cwmpasu gwawd, camp hoew-serch,
Dychanu i Brem, salw-drem sych,
A Gwyddelyn gwedd elych.
Yfed medd hyfeidd-bledd blwng,
Aur i gathl ar i gythlwng,
A helgyd merch hoeilgyrn,
A hela a chwn, wr hael chwyrn;
Pan na bu farw garw gaerug,
Gwyddelyn merch cregyn crug,
Ni chaiff ef dolef, lle y del,
Weithian, gan nad byw Ithel,—
Gwyn i fyd yn gwynfydu.
Y Brem bach! Awr brim y bu
O'i flaen farw ef eleni.
Iawn a wnaeth—hyn a wn i.

Beth yw'r byd? Pwy aeth a'r bel?
Pen doeth—pwy onid Ithel?
Pwy oedd oreu doniau dyn,
Darlleawdr ar dir Lleyn!
Pwy a wyddiad cariad cel?
Pwy eithr a wypai Ithel?

Oedd eres i ddaearu,
Ethol o Dduw Ithel Ddu.
O ba raid iddo, brydydd,
A cherdd-wr a heliwr hydd?
I Ynys Byr mae hir aeth—
Ithel Ddu'n rhith hela a ddaeth,
A'i gynnydd nis goganwn,
A'i gyrn gydag ef, a'i gwn,
Ag a llong y gollyngwyd
O'i wlad i dir Lleudad Llwyd,
I hela cwning hil Cynon—
Y fil saint a'i fawl a'i son.
Nid aeth llwyth o adwyth lli,
Un llong i Ynys Enlli,
Hyn a dyngaf, llwyraf llw,
Hanner cystal a hwnnw,—
F'enaid aur, llathraid yw'r llwyth,
A'm dewis-dyn, Du ystwyth.
Gwr a fedrodd yn gowraint—
Gorwedd lle mae senedd saint.
A glybod Talbod, sel dda,
Ag Iolyn, Ddu'n galwn'n dda.
Di-ddrwg i ddiwladeiddrwydd,
Digrif, pe sirif i swydd.

Nid oes gythrel disgethrin,
A ddel yno, gwenfro gwin.
Da dyddyn, o doed iddi,
Nid ai nebo honai hi.
Yno y daeth ef yng nghrefydd,
Yno byth, band iawn y bydd.
Gorffwys i gorff hyawdl
Hyd frawd ddiodlawd, dda awdl;
Nid aeth, o uchafiaeth iach,
I grefydd wr ddigrifach.


Nodiadau

[golygu]