Gwaith Iolo Goch/Marwnad Llywelyn Goch
← Ar ddyfodiad Owen Glyn Dwr o'r Alban | Gwaith Iolo Goch gan Iolo Goch golygwyd gan Thomas Matthews |
I Ithel ap Rhotpert i ofyn March → |
XLI. MARWNAD LLYWELYN GOCH AP MEURIG HEN.
O DDuw teg a'i ddaed dyn,
A welai neb Lywelyn
Amheurig foneddig hen,
Ewythr, frawd tad yr awen?
Mae ef? Pwy a'i ymofyn?
Na chais mwy, achos ni myn,
Meibion serchogion y sydd,
A morwynion Meirionydd.
Rhyfedd o ddiwedd a ddaeth
Os Rufain fu'r siryfiaeth.
Dyn nid aeth, a Duw'n dethol,
Erioed fwy cwyn ar i ol.
I baradwys i brydu,
Yr aeth bardd, ior eitha' bu—
I'r lle mae'r eang dangnef,
Ac aed y gerdd gydag ef.
Nid rhaid dwyn ynof ond tri,
Nid hagr cael enaid digri',
Mawr yw'r pwnc, os marw'r pencerdd,
Mawr a'i gwyr—ni bydd marw'r gerdd.
Pan ofynner, eur-ner oedd,
Y lleisiau yn i llysoedd,
Cyntaf gofynnir, wir waith,
I'r purorion per araith,
Hy iawn-gerdd y gwr Hen-goch,
Lluaws a'i clyw, fel llais cloch,—
Nid oes erddygan gân gainc,
Gwir yw, lle bo gwŷr ieuainc,
Nid oedd neb coeth ateb cu
Yng Ngwynedd yn ynganu;
Ni bydd digrif ar ddifys,
Nac un acen ar ben bys,—
Ond cywydd cethlydd coethlef,
Ni myn neb gywydd namn ef;
Ni cheir un-gair chwerw angerdd,
Ar gam unlle ar y gerdd;
Ni wnai Dydai, dad awen,
A wyddiad gulfardd hardd hen;
Cerdd bur, i gwneuthur, a wnaeth,
Gwrdd eurwych i gerddwriaeth;
Prydydd-fardd priod addfwyn,
Proffwyd cerdd, praff ydyw cwyn;
Priff-ffordd a gwely gordd gwawd,
Profestydd y prif ystawd:
Primas cywydd Ofydd oedd,
Profedig, prif-wr ydoedd;
Prydfawr fu'r ffyddfrawd mawr mau,
Pryd-lyfr i bob per odlau;
I gân Taliesin fin-rhasgl,
Trwy i gwst, nid trwy y gasgl,
Y dysgawdd fi y disgibl,
Ar draethawd o bob wawd bibl.
Athrylith, nid etholysg,
Athro da mur aeth a'r dysg.
Nid rhaid wrthi hi yr haf,
Da gwyr ef, y digrífaf.
Dieithr a wnaem yn deuoedd,
I mi ag ef, amig oedd—
Amlyn wyf, nid aml iawn neb,
O rai hen ar i hwyneb.
Pur athro cerdd, per eithrym,
Parod oedd pwy a wyr dym?
Minnau'n dal heriau fy hun,
Mi a wn, o mewn anhun,
Na dyrnu na gyrru gwawd,
Ag un-ffust, och! rhag anffawd.
Un natur a'r turtur teg.
Egwan wyf ac un ofeg.
Ni ddisgyn yr edn llednais,
Ni chân ar ir-fedw lân lais."
Minnau canu nis mynnaf,
Byth yn oes. Ow! beth a wnaf?
Gweddio Pedr, gwaedd eorth,
Y bum—canaf gerdd am borth,
Am ddwyn Llywelyn, ddyn da,
Urddol feistr nef i'r ddalfa.
Nis gwyr Duw am deulu-was,
Yn athro grym a wnaeth gras,
Ymysg pobloedd hyddysg hynt,
Proffwydi nef, praff ydynt.
Gwaith hoff gan Ddafydd broffwyd,
Ddatganu cerdd Lleucu Llwyd,—
Prydydd oedd Ddafydd i Dduw.
Clod y Drindod a'r Unduw,
Prydyddiaeth a wnaeth fy naf,
Y Sallwyr bob ryw sillaf.
Anniwair fu yn i oes,
Y caruaidd-fardd caredd-foes.
Pur wr tal, puror teulu,
Serchog edifeiriog fu..
Duw a faddeuodd hawdd hoed,
Iddaw yn i ddiwedd-oed.
Yntau a faddeu i'w fardd,
I ffolineb ffael anhardd.
Llys rhydd sydd echwydd uchel,
I brydydd lliw dydd, lle del;
Ni chae na dôr, na chwyn dyn,
Na phorth rhagddor, ni pherthyn;
Nid hawdd atal dial dwys,
Prydydd ym mhorth paradwys.