Neidio i'r cynnwys

Gwaith Iolo Goch/Pedwar Mab Tudur Llwyd

Oddi ar Wicidestun
I erchi March Ithel ab Rhotpert Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Achau Owen Glyn Dwr

XXXVII. PEDWAR MAB TUDUR LLWYD O BENMYNYDD YM MON.

MYND yr wyf i dir Mon draw,
Mynych im i ddymunaw;
I ymwybod â meibion
Tudur fy naf, Mordaf Mon—
Gronwy, Rhys ynys hynaif,
Ednyfed, Gwilym lym laif—
Rhys, Ednyfed roddged rwy,
Gwaewlym graen Gwilym, Gronwy;
Ednyfed, Gronwy, mwy Rhun,
Rhys, Gwilym, ail rhwysg Alun;
Gwilym, Gronwy yw'n gwaladr,
Ednyfed rhoes ged, Rhys gadr.
Pedwar eglur pedroglion,
Angelystor ger môr Mon.
Pedwar Nudd,—Pedr i'w noddi!
Poed ar awr dda mawr i mi,
Pedwar maib—pwy a'i dirmyg
Plaid ni ad arnaf un plyg.
Iaith ofigion, iaith fyged,
Gwynedd, pedwar cydwedd ced,
Plant Tudur—fy eryr fu,
Paenod haelion penteulu;
Aerfa llu ar for lliant,
Aur dorllwyth yw'r blaenffrwyth blant;

Teirw ergryd haerllyd eurllin,
Terydr aer, taer ar y drin;
Gwalchyddion, brodorion brwydr,
Gwelydr wiw ergrydr eurgrwydr;
Barwniaid heb arynaig,
Beilchion blanigion, blaen aig;
Cangau'r corff cynhullorfion,
Calonnau emylau Mon.

Mon yr af, dymunaf reg,
Mynydd dir manweidd-deg,
Buarth clyd i borthi cler,
Heb wrthod neb a borther;
Claswr-wraidd deg glwys oror,
Clost aur, mae'n clust daro'r mor:
Mam Wynedd, mae im yno,
Geraint da i braint i'w bro;
Cyntaf lle'r af, llew a rydd,
Caer pen Mon, carw Penmynydd;
Ty gweles gynt, teg wiwle,
Tudur Llwyd, da ydyw'r lle.
Yno mae, heb gae ar gêd,
Ail drigant aelwyd Rheged;
Går da iawn, gwr di-anhoff,
Gronwy, loew saffwy, lys hoff,
Arwain a wnaf i'm eurwalch,
Waew a phenwn barwn balch,
A'i darged, benadur-gorff,
Gydag ef i gadw i gorff,
Yfo nid rhaid ofni tryn
Ag Iolo yn i galyn.
Af lle'dd wtresaf at Rys,
Arddreiniog, urddair ynys,
A'i drysorau dros ariant,
I faer coeth wyf, fe wyr cant;
Câr o'r gwaed, yn caru'r gwr,
I Rys wyf yn rysefwr;

Arddelw arnaf aur ddolef,
Olud oll i weled ef.
Nid pell Tre'r Castell, cell cêd,
Tud nefol, Tai Ednyfed,
I ffenestr wyf fi yno,
I faer fyth, fy aur yw fo.
Caf yno heb geisio gwell,
Cystal ag yn Nhre'r Castell;
Ol a gwrthol, i'm gorthir
Awn at Rys, gwys y gwir,
Ar draws Mon, o dy Rys mwy
Di 'rynaig i dy Ronwy;
O dy Ronwy, da'r Ynys,
Da ryw ymchwela i dy Rys;
O dy Rys, dur i aesawr,
I dy Wilym, mynd elw mawr,—
Llys Wilym, lle llysieulawn,
Llewpart aur, lle parod dawn;
A nwyd rhag yno trigaf,
Yn y nef ac iawn a wnaf,
Trefn clerach, trafn goleuryw,
Tariaf ym Mon tra fwy fyw.


Nodiadau

[golygu]