Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Affrig

Oddi ar Wicidestun
Simon o Cyrene Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Dyffryn Galar
gan William Thomas (Islwyn)

Dyffryn Galar
Ofnadwy Riw

AFFRIG

AFFRIG! Ai ynnot ti y caed y gŵr,
Pan ar ei iawnol daith tua Chalfari
Y cerddai'n wael ei wedd, a'r ffordd o'i ol
Oll wedi'i gwlitho â defnynnau gwaed ?
Daw dydd bydd pawb o'th fewn yn dwyn ei groes.

Tydi anedwydd wlad, sy oll yn wyw,
Affrig, sy fyth yn wylo, fyth yn brudd,
Wrth feithrin ar dy fronnau briw genhedlaeth
Ar ol cenhedlaeth i gaethiwed trwm;
Ti, raib gorthrymder, bro ddi-nerth y caeth,
Lle cenfigennir wrth y mil tylawd
Ei ddiogelwch yn ei dywell ffau,—
Ior! Clyw y waedd. Bloedd myrddiwn ydyw hon,
Ers llawer oes mae'n syfrdanu'r nen;
A gor-ddisgleirdeb dy ddyfodiad chwal
Y nos o orthrwm sy'n pruddhau ei thir.

Amerig, gwrida! Ti sy'n dal y cledd
Yng nghalon mamau Affrig. Atat ti
Mae môr y barnau'n chwyddo'u huthraf lanw.
Affrig! Derbynia'm dagrau, a thydi,
Y Nef drugarog, fy ngweddiau taer
Am ddydd gollyngod a rhyddhad ei thorfoedd,—
Y dydd y plennir baner deg y groes.
Ar Fryniau'r Lloer, y chwyddir anthem hedd
Trwy Ethiopia lofr; a phan y bydd
Sahara yn blodeuo fel y rhos.

Nodiadau[golygu]