Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Alarwr athrist
Gwedd
← Archangylion | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Lloffion o Dywysennau gan William Thomas (Islwyn) Lloffion o Dywysennau |
Dieithr law → |
ALARWR ATHRIST
ALARWR athrist! Rhwng y beddau,
Paham y crwydri'n wyw dy wedd?
Deffroed dy wên, a sych dy ddagrau,
Bu'r Prynnwr,—Duw ei hun,—mewn bedd;
A daeth i'r lan o'r ogof brudd
Gan lanw'r fan â thanbaid ddydd.