Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Anadla'r Gwanwyn

Oddi ar Wicidestun
Gwel, Uwchlaw Cymylau Amser Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Dyffryn Galar
gan William Thomas (Islwyn)

Dyffryn Galar
Arwain fi

ANADLA'R GWANWYN.

ANADLA'R Gwanwyn! Deffry sain y gerdd,
Y ddaear eilwaith wisg ei mantell werdd;
A chyfyd Anian o'i gauafol hun,
A gwawr ieuenctid yn tegeiddio 'i llun;
Anadla'r awel falm-aroglau mwyn,
Gan darawiadau mawl ysgydwa'r llwyn;
Ac ar bob tu adgyfyd blodau'r ardd,
Eu gwisgoedd oll yn newydd, oll yn hardd;
Y ddaear drwyddi yn ymdrwsio gaf,
I dderbyn gyda rhwysg y tanbaid Haf,
Ymwelydd araul o balasau'r nef
Sy'n llywodraethu'r haul, ei gerbyd disglaer ef.


Ond Ah ! Paham y mae y bedd,
Oer annedd, mor ddigyffro?
Distawrwydd a thragwyddol hedd
A daenant brudd-der drosto;
Cartrefle gauaf oesol yw,
Mae'm gobaith yno fyth yn farw, a'm blodau
fyth yn wyw.

Chwyth, awel ! Chwyth dy udgorn fry,
Nes deffry'r bedd i wrando;
Pereiddiaf dôn y Gwanwyn cu,
O cân yn addfwyn iddo;
Ond Ah! Ni chlyw. Mae'r oll yn dawel,
Dos tua'r nef i ganu, awel.


Ac O na chawn i fyny esgyn,
Gyflymaf awel, gyda thi;
Dan gysgod dy awyrol edyn,
I'r nefoedd esgyn ati Hi;
Tro'th udgorn fry, a dywed wrth
Fy mod yn wylo ar ei bedd,


Yn wylo o lawenydd iddi
Mor gynnar gyrraedd broydd hedd;
A throi o wanwyn teg ieuenctyd,
Ym mlagur bywyd, tua'r wlad
Lle mae bodolaeth yn ddedwyddyd,
A lle mae bywyd yn fwynhad.

Nid oes ond udgorn Duw
All dorri hun y beddrod;
Yr Adgyfodiad-ateb yw
I lais y Duwdod;

Mae'n gwaeddi "BYWYD" uwch y glyn,
Dianga caethion angau tra gwrendy'r beddau hyn.

Er gwywo dan gymylau'n hir,
Tyrr gwawl ar dir y beddrod ;
Draw gwena'r wawr, ar wybren glir,
Addewid wir y Duwdod;

Teg wanwyn anfarwoldeb yw,
Ah! Mae fy mlodau eto 'n wyrdd, fy ngobaith eto 'n fyw.


Mae hafddydd tragwyddoldeb
Yn agor ar y bedd,
Yn llawn o anfarwoldeb,
Mae tangnef yn ei wedd;
Aeth heibio auaf angau blin,
Mae arogl bywyd yn yr hin.

Mai 12, 1854.

Nodiadau[golygu]