Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Ar ben y mynyddoedd
← Ymagor fedd | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Ystorm ar y Bryniau gan William Thomas (Islwyn) Ystorm ar y Bryniau |
Fel y môr tua'r lan |
AR BEN Y MYNYDDOEDD.
PWY genfigennai i'r mawrion eu bri
Yn nghanol mawreddau y dymhestl hy?
Dos rhagot, Ystorom ardderchog a chref,
Tros fil o fynyddoedd draw clywer dy lef,
A deffro bob adsain hyd eithaf y nef.
Mil gwell na phalasau y ddaear bryd hyn
Y bwthyn tlawd unig ar ymyl y bryn,
Lle chwyth yr awelon yn bur tua'r nefoedd
Heb reg i'w halogi, na dadwrdd tyrfaoedd;
Lle na i yw y ddinas mewn golwg, na'r dref;
Ond bryniau ar fryniau, a nefoedd ar nef.
Ardderchog dy weled, O dymestl hy,
Yn plygu tylathau y nef uchaf fry.
Ardderchog olygfa! Mae natur bob tu
Yn agor ei myrdd rhyfeddodau i mi;
Clyw! Cafodd y creigiau ardderchog leferydd
A nennawd o iaith ac adseiniau ysplenydd.
O pan fo yr awel yn per delynori,
A chyngherdd o adar o'i mewn yn perori,
Pan fyddo llaw dyner roslliwiog y wawrddydd
Yn agor y nefoedd i lanw'r boreuddydd;
A'r dwyrain yn llifo mewn dydd a mawreddau,
A'r broydd yn deffro a gwrid ar eu gweddau;
Pan oddiar wyrddion allorau y goedwig
Y cwyd y foreugerdd i'r nef agoredig,—
Ar ben y mynyddoedd y crwydraf yn awr,
Oddiar olygfaoedd aneirif y wawr,