Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Ateba y cefnfor

Oddi ar Wicidestun
Ewch rhagoch, ystormydd Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Ystorm ar y Bryniau
gan William Thomas (Islwyn)

Ystorm ar y Bryniau
Tro yn ol

ATEBA Y CEFNFOR

ATEBA y cefnfor dy lais o'r dyfnderau,
A'i wyneb teg llydan yn duo gan lid;
Try allan ei fyrddiwn o newydd wyrdd rengau,
A thaena ei gysgod dros hanner y byd ;
A sigla'r ynysoedd yn rhydd o'u sylfeini.
A rhua i'r gwyntoedd ei aruthr gampwri,—

Y modd y taranodd o fannau y nefoedd,
Fel cawr a aflonyddid ar ganol ei hun,
Hen egwyl y Diluw, a byd o fynyddoedd
I lawr wrth ei draed yn ymgrymu bob un ;
A'r ddaear yn symud trwy ganol y nefoedd
Ar wlybion olwynion, fel planed ystormus o ddyfroedd.

A thi sydd yn dangos i'r môr ei fawrhydri,
Yn troi ei waelodion i'r wyneb i gyd;
Mor aruthr ei dwrw wrth droi yn ei wely,
A'r ddaear yn crynnu, yn crynnu fel cryd;
Ar unwaith gollynga ei nofiol fagnelau,
A'r dyfnder wregysir â nen o daranau.

Ymafla y tonnau yn esgyll y gwyntoedd,
Nes syrthio o ganol y nef fel ynysoedd;
Yn awr ymddolennant holl led y dyfnderau,
Fel cadwyn o wibiog ystormus fynyddau;
A myrddiwn ddiflannant fel mygdarth o'r wybr,
A myrddiwn ar fyrddiwn ail ddringant yr awyr.

Aruthrol ogoniant ! Pa awen na safai
Ar ymyl ofnadwy y graig?
Ar fynwes fawr anian, O pwy na addolai
Pan chwyddai taranfawl pell-seiniol yr aig?
Ust! Dyma addoliad ardderchog a phybyr,
Addoliad o galon, o galon fawr natur.

Nodiadau[golygu]