Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Deffro, fwyn Awen

Oddi ar Wicidestun
Pa le y maent Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Ystorm ar y Bryniau
gan William Thomas (Islwyn)

Ystorm ar y Bryniau
Ewch rhagoch, ystormydd

—————————————

II. YSTORM AR Y BRYNIAU

—————————————

DEFFRO, FWYN AWEN

DEFFRO, fwyn Awen, ai hyn yw dy waith,
Wylofain yng nghanol y beddau ?
Pa bryd y terfyna dy athrist daith
Ym mroydd y niwl a'r cysgodau?
Mangreoedd di-loer, nid oes yma un swyn,
Ond tywyllwch a phrudd-der ac adsain cwyn.

Mae y meusydd sy'n yfed y mel-wlith y borau,
Tra'n llifo dros ruddiau y wawr,
Yn anfon eu hoffrwm mewn mil o aroglau,
A'r nefoedd yn gwenu wrth yfed eu sawr;
Ah! Er i ti wylo hyd wywo dy wedd,
Ni wawria sirioldeb o eigion y bedd.

Man anghof yw hwn, ac eto mae rhai
Na feiddiant mewn un man anghofio,
Dos, Ifor, i'r ddinas, y mynydd, y bau,
Mae y bedd yn dy ymyl di yno
Yn newydd a gwyrdd. A phwy all anghofio
Y pethau sy'n rhan o'i fodolaeth ynddo?

Tyred, fwyn Awen, i fyny o'r glyn,
A'th lygad yn rhuddo gan ddagrau,
Ac esgyn oddiar uchelderau y bryn
I'r lan oddiar y cymylau,
Clyw nerthoedd y stormydd yn cyffro trwy'r byd,
A'r nef yn rhyddhau ei tharanau i gyd.

Nodiadau[golygu]