Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Englynion gnodau
← Bydd tramwyfa fawr o ser | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Lloffion o Dywysennau gan William Thomas (Islwyn) Lloffion o Dywysennau |
Y Dadguddiad newydd → |
ENGLYNION GNODAU.[1]
GNAWD i oferwr dlodi,
Gnawd i hunanol ffromi,
Gnawd i feddwyn drwm gyfri.
Gnawd i falch eiriau anfwyn,
Neud gwael i gybydd achwyn?
Wedi chwerthin rhaid bod cwyn.
Gnawd i swrth feio'r tywydd,
Neud brwnt yw mantell cybydd?
A wylio 'n hwyr gyll y dydd.
Gnawd i hurtyn safn-rythu,
Neud y gŵr ddylai lywyddu?
Tawed gwraig ynghanol llu.
Gnawd i feudwy brudd ogof,
Neud un yw'r bedd ag anghof?
Perlau'r gwir i bwrs y cof.
Gnawd i ddyn newidiolrwydd,
Gnawd i'r werin wamalrwydd,
Aflwc i rai yw eu llwydd.
Gnawd i chwedl ddrwg ymledu,
Neud prin ceir neb i'w gwadu?
Pwy na chred a ddwedo llu?
Gnawd i oferwr fratiau,
Gnawd i segur greu chwedlau,
Gnawd i glebren eu hau.
Gnawd i ddienaid synnu,
Gnawd i ddrwgdybus gredu,
Dwl i asyn feirniadu.
Gnawd i falch fostio 'i deulu,
Neud y gwyllys yw'r gallu?
Prisia'th fraint, a gad a fu.
Gnawd i oludog wael fyd,
Neud efe bia'r tristyd?
O ie, a'r aur i gyd.
Gnawd i ffyddiog ymddiried,
Neud ffol ni fyn ystyried?
Newydd drwg, chwyrn yr ehed.
Gnawd i fawledig ateb,
Neud anheilwng na fawl neb?
Nid y galon yw'r wyneb.
Gnawd i goegyn anffyddiaeth,
Neud drwg dafn o wybodaeth?
Yf yn ddwfn, ac na fydd ffraeth.
Gnawd i hurt ddadleu'n eon,
Neud glywch chwi 'i eiriau mawrion?
O 'nawr, at y mandrel, Shon.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gnawd,—cyfystyr ag "arferol," usual.