Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Gwawria canrifoedd

Oddi ar Wicidestun
Tlws ond tlysach Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Lloffion o Dywysennau
gan William Thomas (Islwyn)

Lloffion o Dywysennau
Cân y Gwaredigion

GWAWRIA CANRIFOEDD

GWAWRIA canrifoedd
Fel ser ar y nefoedd;
Oesoedd ar oesoedd
Redant ar gylchoedd,
Ar eu holwynion
Llathr a mwynion;
A phan y darfyddant,
Fel ser y diflannant;
Myrdd, myrdd yn dylifo
Heb neb yn eu rhifo.

Bydd oesoedd ar oesoedd
Ar rod anherfynol,
Fel cylchau y nefoedd
Yn troi yn olynol.

Dan wenau Duw byddant
Yn hir ymfwynhau,
Ar arian draeth amser
Fel llanw a thrai,
Fel Eden o flodau
Yn agor a chau.

Nodiadau[golygu]