Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Mae'n myned i Bethania
← O pam yr wylem | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Dyffryn Galar gan William Thomas (Islwyn) Dyffryn Galar |
Mae seren lawn → |
MAE'N MYNED I BETHANIA
Mae'n myned i Bethania, a chydag ef
Ryw nifer ddistadl o gyfeillion tlawd.
O mor wahanol yw ei wedd yn awr
Wrth fynd i alw ei gyfaill hwn o'r bedd,
Yn dlawd ei osgedd, fel rhyw ddieithr ddyn
Yn teithio yn ddi-sylw drwy y wlad,
Gŵr aml ei ddagrau,-mor wahanol yw
I'r olwg hardd fydd arno pan y daw,
Yr olaf ddydd, fry o balasau'r nen,
I alw i'r lan o ogofeydd y bedd
Dorfeydd ei bobl a llef ei udgorn.
Arswyda angau, nes y cyll o'i law
Ei deyrn-wialen, ac y syrth colofnau
Ei orsedd dano'n ddrylliau mwy.
O ai'r ymdeithydd acw yw yr Un
Ddadgloa feddau'r oesau, ac a wna
I'r fynwent bellaf grynnu wrth ei lais,
A thynnu i lawr fanerau angau 'i hun,
Ei ddiorseddu, a gwadu ei awdurdod,
Ac arllwys ei phrynedig lu i'r lan,
Aruthrol dorf, lliosog fel y ser,
A mil disgleiriach, i gymysgu mwy
Ag archangylion, ac i ymgolli fry,
Fry yng nghymanfa bydoedd fyrdd ynghyd?