Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Nid Hwn, ond Barabas

Oddi ar Wicidestun
Ofnadwy Riw Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Dyffryn Galar
gan William Thomas (Islwyn)

Dyffryn Galar
O pam yr wylem

NID HWN, OND BARABAS

"NID hwn ond Barabas!" Parha y floedd;
Holl leisiau'r oesau unant i'w pharhau.
Distawa, anghredadyn. Taw! Paham
Y beiit arall am dy fai dy hun?
Y mae'r ddaeargryn engyrth ar ei thraed,
Gad iddi hi gyhuddo'r Iddew tlawd;
Ac i'th ystafell dos, a gwrando'n sobr
Yr unrhyw floedd yn darstain drwy dy enaid,
Ac ar dy ol, trwy wagle llawer blwydd,
"Nid Hwn, ond Barabas." "Nid Hwn, ond Chwant."

'Roedd Barabas ei hun yn well na Satan;
A llai eu pechod a'u dewisant ef
O flaen eu Ceidwad, na thydi sy'n dewis
Holl gethern Annwfn, a Satan, yn ei le.

Nodiadau[golygu]