Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Y Croeshoeliad

Oddi ar Wicidestun
Hir, hir Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Dyffryn Galar
gan William Thomas (Islwyn)

Dyffryn Galar
Gwirfoddolrwydd

Y CROESHOLIAD.

SIARADWCH, greigiau! Troed y bryniau mud
Oll yn dafodau i gyhuddo'r byd.
Fynyddoedd, teimlwch chwi! A'r daran gref,
Cyhudda di nes duo haul y nef.
A thi, wahanlen, rhwyga; a thydi,
Ddaeargryn, marchog yn dy gerbyd hy;
Pregetha wae dan sail Moriah draw,
Hyawdledd dychryn, a lleferydd braw;
O'th ddofn areithfa, argyhoedda'r byd,
A tharan soriant a hyawdledd llid.

A'r fellten chwerw, yn absenoldeb dydd
O cynrychiola r haul, a chod yr hudd
Sy'n llennu'r groes a gwyrthiau Calfari
O olwg Salem, cod yr huddlen ddu,
Llen anghrediniaeth, nes y gwelo'r byd
Yn oleu mwy,-anfeidrol Dduw yn fud.

O dangos iddynt yn y groes yr iawn;
Ac yn y gwaed, o dangos daliad llawn.

A gweled pawb mai Crewr haul a dydd
Dan dduaf lenni'r nos yn groeshoeliedig sydd.

O dangos dduwdod yr hoeliedig Ddyn;
Brawd, brenin, archoffeiriad yn yr un.

Siaradwch, greigiau, dros eich Crewr mud,
Ewch acw'n ddrylliau, feilchion fryniau'r byd.

Nodiadau[golygu]