Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Yr eang berl-feusydd
Gwedd
← Cân y Gwaredigion | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Lloffion o Dywysennau gan William Thomas (Islwyn) Lloffion o Dywysennau |
Bydd tramwyfa fawr o ser → |
YR EANG BERL-FEUSYDD
A NOS fawr o ddyfroedd
Cymylodd yr Ior
Holl eang berl-feusydd
Gwaelodion y môr;
Mae anian yn gwisgo
Dyffrynnoedd y weilgi
A thrwch o fyrierid
Fel gwanwyn â gwyrddni.
Pa ddiben amlennu
Eurgloddfa mor glaer,
Pa ddiben palmantu
Y dyfnder ag aur?
Paham ca y mân-bysg
Mor dawel gysgodi
Dan fryniau o berlau
Pan ferwo y weilgi?
Mae trysor diderfyn
Yn for wrth dy draed;
Oes, gyfoeth yn gorwedd
Mewn dyfnder o waed
O galon Jehovah
Agorwyd un dydd ;
Ar ddyfroedd trugaredd
Taen hwyliau dy ffydd.
O agor dy lygaid
Gwel foroedd bob tu,—
Bendithion yn foroedd,
Maddeuant yn lli;
Ond rhaid ymorchestu
Yn ffyddiog ddi-ffael,
Rhaid ceisio i dderbyn,
Rhaid gofyn i gael.