Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Yr oedd awelig fwyn

Oddi ar Wicidestun
Ddyn, edrych i fyny Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Ystorm ar y Bryniau
gan William Thomas (Islwyn)

Ystorm ar y Bryniau
Ystorm Tiberias

YR OEDD AWELIG FWYN

YR oedd awelig fwyn
Yn pwyso ar y don,
Ac adsain galarebol gŵyn
Yn gwasgu ar ei bron.

Buasai trwy y nos o'r blaen
Mewn mynwent ar y lan,
Yn gwylio bedd oedd newydd gau
A'r athrist newydd ado 'r lan.

Mae'r Adgyfodiad ar y don,
Adnabu ei addfwynaf lef;
A chlywid ei herddygan lon
Yn uchel yn y nef.


Edrychai'r Ceidwad a thyneraf drem
O'i amgylch ennyd. Gwridai Anian deg,
I fyny hyd y nefoedd, weld ei Duw
Yn edrych ar ei gwedd,—
Yr Hwn estynnodd ei dyneraf law
I fro diddymdra pell i'w dwyn i'r lan
I'w gorsedd fawr o fydoedd, pan y rhoes
Y goron ser yn newydd ar ei phen,
Pan glywodd gyntaf engyl-gorau Duw
Ar gylch y nefoedd draw.
Anfonai'r dydd
Ei arian lanw o oleuni tros
Y traeth o wynion deg gymylau draw
A loriai'r nef a diniweidrwydd gwyrf,
Fel pe buasai er awyddfryd taer
I weld ei Grewr yn ei isaf wedd.

Nodiadau[golygu]