Gwaith John Hughes/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Gwaith John Hughes Gwaith John Hughes

gan John Hughes, Pontrobert

Cywydd ar Waith y Prynedigaeth

Rhagymadrodd

GANWYD John Hughes yn y Figyn, Llanfihangel yng Ngwynfa, Chwef. 22, 1775. Gwehydd oedd, ond daeth yn un o ysgolfeistri Charles o'r Bala; a bu'n athraw yn Llanwrin, Llanidloes, Berthlas, Llanfihangel, a Phont Robert. Bu'n lletya yn Nolwar Fach: a thrysorodd ar hyd ei fywyd ymddiddanion ysprydol y fesetres ieuanc, ei llythyrau, a'i hemynnau.

Yr oedd John Hughes yn afler ei olwg ac yn aflafar ei lais, ac yr oedd yn gofyn peth craffder i weled ei ddynoliaeth ardderchog, ei amcanion cywir, ai ddyngarwch goruchel. Yr oedd yn efrydydd caled, a'i grefydd yn hawlio holl ymadferthoedd ei enaid. Yn 1802, cafodd ddechreu pregethu gyda'r Methodistiaid. Er gwaethaf ei aflerwch ai dlodi, aeth yn fath o dywysog yn ei wlad. Tlawd fu ar hyd ei oes,—er yr oedfaon grymus a'r teithio diflino, er y gwasanaeth i Wasg Chyfarfod Misol a Chymanfa. A gwelodd pobl sir Drefaldwyn fod mawredd heblaw mewn cyfoeth.

Yr oedd Ann Thomas wedi gweled ei werth, ac yn cydymdeimlo ag ef yn ei ymdrech i gael pregethu'r efengyl. Yr oedd Ruth Evans, morwyn Dolwar a merch Morus Evans o'r Mardy, wedi gweled ei werth hefyd. Un dwt a threfnus oedd Ruth, annebyg iawn i John Hughes. Priodasant o Ddolwar yn Llanfihangel ym mhentymor 1805, ac yr oedd Ann Griffiths yn eu priodas. Yr oedd cariad Ruth at ei gŵr, ar hyd eu bywyd priodasol hir, yn ymylu ar addoliad, wedi ei farw eisteddai ger ei fedd ganol nos, i'w glywed yn siarad â hi Yn y blynyddoedd 1800-1805, yr oedd meddwl Ann Griffiths a meddwl John Hughes ar yr un pethau. Yr un pynciau sydd yng nghofnodion ac emynnau John Hughes ag sydd yn llythyrau ac emynnau Ann Griffiths. Ond y prif syniad ym meddwl John Hughes yw plygu yr ewyllys i Dduw a'i gredu; nodwedd meddwl Ann Griffiths yw cariad angerddol at y Gwaredwr. Nerth Duw wêl John Hughes, a'r ddyledswydd i gredu yn ei ragluniaeth a'i iachawdwriaeth; cariad y Gwaredwr wêl Ann Griffiths, yn rhagori ar ddeng mil. At Ffydd yr arwain meddwl John Hughes ni, at Gariad yr arwain meddwl Ann Griffiths ni. Yn nhanbeidrwydd y cariad hwn cwyd i uwch barddoniaeth nag oedd o fewn cyrraedd John Hughes pan yn meistroli bannau duwinyddiaeth am Berson Crist. Eto canodd yntau lawer emyn grymus iawn.

Cyhoeddodd naw neu ddeg o lyfrau,—bron oll yn waith neu adgofion ei ieuenctyd. Hymnau, Caniad Solomon, pregethau, a chofiantau yw ei waith llenyddol. Er nad yw'r cofiantau'n orfanwl, y mae bywyd ymhob un ohonynt,—wyneby, cymeriad, enaid a gwaith. Owen Jones, Evan Griffiths, Ann Griffiths,—maent oll yn fyw yn y darlun. Prin y gellir dirnad dylanwad oes hir a llafurus John Hughes ar Gymru. Ceir cipolwg ar ei lafur a'i ddioddef yn erthyglau dyddorol y Parch. Edward Griffiths yn y Traethodydd, 1890 ac 1891; ac ar ei fywyd bob dydd yn adgofion difyr Mr. John Morgan yn y Drysorfa, 1898 ac 1899.

Owen M. EDWARDS.

Nodiadau[golygu]