Neidio i'r cynnwys

Gwaith John Thomas/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Gwaith John Thomas Gwaith John Thomas

gan Owen Morgan Edwards

Cynhwysiad

Rhagymadrodd.


ADEG rhyddiaith yw ein hoes ni; ond, tra yr afradir amser ac ynni ar ffurf prydyddiaeth, caiff rhyddiaith ei ysgrifennu rywsut, heb ymgais at y cain, y tlws, a'r tryloew mewn arddull. Eithaf peth fyddai troi 'n ol at ysgrifenwyr rhyddiaith goreu Cymru, a syllu ar y grym a'r llyfnder iaith sydd yn esbonio eu dylanwad. Ymysg y rhain y mae lle uchel iawn i John Thomas. Nid wyf yn haeru fod ei arddull yn berffaith ymhob manylion; ond mewn tryloewder, symledd, a min y mae yn gynllun i ni. Yr oedd ei nerth cof a'i welediad clir yn gwneyd ei iaith mor loew a phur a nant y mynydd.

Ganwyd John Thomas yng Nghaergybi yn 1821; ond ym Mangor y treuliodd ei febyd. Dywed nad oedd ei deulu yn hynod am dalent ; ond, pe na buasai ond am Owen Thomas a John Thomas yn unig, ychydig deuluoedd sydd mor enwog yn hanes meddwl a llenyddiaeth Cymru yn awr. Daeth John Thomas yn fore dan ddylanwad y Diwygiad a Dirwest, ac wrth eu gwasanaethu hwy y daeth ei benderfyniad gwydn a'i gyfoeth o feddwl ac iaith ir amlwg. Dechreuodd gadw ysgol a phregethu gyda'r Anibynwyr yn 1837, pan oedd Dr. Arthur Jones, Caledfryn, Ambrose, a Gwalchmai yn eu bri. Yn 1840 aeth i'r ysgol i Marton, lle yr oedd Ieuan Gwynedd yn gyd efrydydd iddo; ac yna i Ffrwd y Fâl, ond ni rydd yr un olwg ar Dr. Davies ag a rydd rhai o'r disgyblion eraill. Yn 1842 ymsefydlodd fel gweinidog Bwlchnewydd, yn sir Gaerfyrddin ; yn 1850 symudodd i Glyn Nedd; ac yn 1854 symudodd i Lerpwl, lle y bu hyd ei farwolaeth yn 1891.

Yr oedd yn un o dywysogion pulpud Cymru, yn un o'i gwleidyddwyr grymusaf, yn un o'r haneswyr mwyaf manwl a llafurus, ac yn un o'r ysgrifenwyr mwyaf goleu a miniog fu'n gwasanaethu egwyddorion erioed.

Yn 1898 cyhoeddwyd Cofiant teilwng gan ei fab, y Parch. Owen Thomas, M.A., Llundain, a'r Parch. J. Machreth Rees; gyda phennod ddyddorol gan ei fab arall, Mr. Josiah Thomas. Yn hwnnw ceir golwg ar yr holl yrfa lafurus, y pregethu, y bugeilio, y llenydda, Coleg Aber- honddu, ac ysgrifenu "Hanes Eglwysi Anibynnol Cymru."

Swynwyd fi gan ei hunan-gofiant, lle y rhydd ddarlun clir a byw o ymdrech efrydydd i gael addysg yn nechreu'r ganrif ddiweddaf. Trwy garedigrwydd ei ddau fab,—y Parch. Owen Thomas a Mr. Josiah Thomas,—wele ran gyntaf yr hunangofiant yn llyfr hylaw. Ceir y gweddill o hanes y bywyd diflino yn y Cofiant; nid oes yma ond hanes yr efrydydd, hyd at ei sefydlu mewn eglwys fechan yn y wlad.

OWEN M. EDWARDS.

Rhydychen,

Dygwyl Dewi, 1905.