Gwaith John Thomas/Siomedigaethau
← Trefdraeth Garedig | Gwaith John Thomas gan John Thomas, Lerpwl |
Bwlch Newydd → |
XVI. SIOMEDIGAETHAU.
Un bore, pan oedd fy meddwl yn gythryblus, dyma i mi lythyr oddiwrth Mr. Rees, o Lanelli, yn dweyd, os nad oeddwn wedi cytuno i aros yn Nhrefdraeth, fod arnynt hwy eisiau dyn ieuanc yn Siloa, fod y bobl wedi fy hoffi pan y bum yno, ac os, wedi cael prawf pellach, y deuent hwy a minnau i ddealldwriaeth, y byddai yn dda ganddo gadarnhau yr undeb rhyngom. Gwelais ddrws yn ymagor, ac anfonais yn y fan y deuwn, ac y byddwn yno erbyn yr ail Sabboth. Yr oeddwn, drwy drefniad, i fod yn Maenclochog y Sul dilynol, a phenderfynais fyned yn fy mlaen oddiyno i Lanelli. Cyrhaeddais Lanelli ar y Sadwrn, a gelwais yn nhy Mr. Rees; ac yr oedd wedi trefnu i mi i fyned i letya at fam y Parch. D. Williams, Blaenau,—hen wraig garedig, a fu i mi fel mam, a'i merch Peggy, a briododd wedi hynny â Thomas Jones, diacon yn Nghapel Als, a fu i mi fel chwaer. Nid angholiaf byth eu caredigrwydd. Yr oedd Mr. Rees hefyd wedi ysgrifennu at y Parch. R. P. Griffith, Pwllheli, ac wedi cael atebiad cyffelyb i'r un a anfonasai i Drefdraeth, fel nad ymddanghosai mor bleidiol i mi ag y gallesid disgwyl. Yn anffodus, yr oedd Henry Davies,—Bethania wedi hynny—wedi anfon ei gyhoeddiad i fod yn Llanelli y Sabboth hwnnw, a phregethodd ef yn Ngapel Als y bore, ac yn Siloa yr hwyr. Tybiodd rhai mai efe oedd y pregethwr ddisgwylid, a dechreuasant ei ganmol, ac, wedi deall eu camgymeriad o'r dyn, nid oeddynt yn barod i newid. Bum yno dros fis neu chwech wythnos, a gallaswn aros yn hwy, ond gan nad oedd arwydd eu bod yn dyfod i unrhyw benderfyniad, dechreuais anesmwytho. Mae yn debyg nad oedd Mr. Rees yn gweled addfedrwydd digonol i ddwyn y peth ger bron yr eglwys; mwy na thebyg nad oedd yn teimlo yn gryf iawn ei hun, er iddo fod yn hynod o garedig i mi, a gwnaeth bod gydag ef yr wythnosau hynny i mi lawer o les.
Yr oedd fy nghyfaill, John Evans, wedi cael galwad o'r Maendy, ac i gael ei urddo ym mis Hydref, a phenderfynais fyned yno. Pregethais yng Nglandŵr, Treforis, a Chwmafon ar fy ffordd. Cefais bawb yn garedig, yn enwedig y Parch. Daniel Griffiths, Castell Nedd. Cymhellai fi yn daer i fyned i'r Llwyni, lle yr oedd achos newydd,—Soar, Maesteg yn awr—wedi ei gychwyn gan nifer o bobl oedd wedi torri allan o Carmel, o dan y broffes o fod yn fwy o ddiwygwyr na'r rhai a adawsant ar ol. Addewais yr awn wrth ddychwelyd. Wedi yr urddiad yn y Maendy, ymdroais yn y wlad dros rai wythnosau. Bum Sabboth yng Nghaerdydd, a Sabboth arall ym Mhenmain. Yno y cyfarfyddais à John Davies, Cilcenin,—y dyn dall,—ac y clywais ef yn pregethu ddwywaith. Oddiyno aethum tua Merthyr ac Aberdâr, yn ol cytundeb a wneuthum yn y Maendy a'r Parch. T. Rees, Aberdâr (Dr. Rees wedi hynny). Yr oedd dadl Rhymni newydd basio, ac yn Merthyr cyfarfyddais â Jones Llangollen, ac a'm hen gyfeillion Edward Roberts, a Ieuan Gwynedd, a William Edwards, y rhai oeddynt fyfyrwyr yn Aberhonddu, ac wedi dyfod i Ddadl Bedydd Rhymni i fod yn reporters. Buom yn cydgynnal cyfarfod dirwestol ym Mhontmorlais. Aethum o Aberdâr trwy Hirwain, i Gastell Nedd, a phregethais yn Melincwrt ar fy ffordd. Digwyddodd fod Cyfarfod Ailagoriad Soar, Castell Nedd, ar y pryd, a rhoddwyd fi i bregethu y noson gyntaf gydâ Davies, Mynydd Bach. Drannoeth, yr oedd Price, Cwmllynfell, a Jones, Castle Street, Abertawe, yn pregethu am ddeg; Jones, Clydach, am dri; a Morgan, Llwyni, a Griffiths, Alltwen, yn yr hwyr. Yr oedd yn gyfarfod hwyliog iawn. Oddiyno aethum i'r Maesteg, lle yr arhosais dri Sabboth. Nid oedd yr achos ond dechreu. Cyfarfyddent mewn hen gapel bychan oedd wedi ei adael yn ddiwasanaeth; ond un nos Sabboth pregethais mewn ystafell eang mewn cwrr arall i'r Dyffryn, yn uwch i fyny. Arhoswn yn nhŷ yr hen bregethwr Rhys Powell, ond pregethwn y nosweithiau mewn lleoedd oddiamgylch. Bum yn y Cymer hefyd un noson. Yr oedd Capel Soar yn cael ei godi ar y pryd. Yr oedd yno ychydig bobl ffyddlon, ond mai isel eu hamgylchiadau oeddynt gan mwyaf. "Sarah Maesteg," fel ei gelwid, oedd fwyaf ei dylanwad, a hi oedd y fwyaf gwybodus o honynt 'oll. Merch o sir Gaer- fyrddin ydoedd, a ddaeth drosodd i wasanaethu i fferm Maesteg, ac a briododd ei mheistr. Ni dderbyniais alwad ffurfiol oddiwrthynt, ond yr oedd rhyw gyd-ddealldwriaeth rhyngom fy mod yn myned i aros yno hefyd, er nas gallent addaw i mi ond ychydig: Ni theimlwn unrhyw hoffder at y lle, ac nid oedd yn yr achos ddim yn ddeniadol; ond gan nad oedd un drws arall yn agor, yr oeddwn yn penderfynu aros yno. Yr oedd gennyf ryw bethau wedi eu gadael yn Llanelli, ac yn Nhrefdraeth, a phenderfynais fyned i gyrchu y
rhai hynny. Yr oedd yn awr yn ymyl Nadolig,————————————————————————————————————
CAPEL BWLCHNEWYDD.
(Oddiwrth ddarlun mwy yn Cofiant John Thomas.)
————————————————————————————————————
Rock, Cwmafon, ac yr oedd Mr. Jones, Clydach, wedi dyfod yno i bregethu yn y plygain bore drannoeth. Aethum hyd Lanelli, lle yr oeddwn y Sabboth cyntaf yn Ionawr 1842. Dywedodd Thomas Jones, Abertawe, wrthyf ar ol hynny ei fod ef a Henry Rees, Ystrad Gynlais,—Kansas yn awr—yn fy ngwrando yn nghapel Als y bore hwnnw; y ddau ar y pryd yn aelodau gyda'r Methodistiaid, ond yn llawn ysbryd pregethu. Yr oeddwn yn myned i lawr yr wythnos ddilynol i Drefdraeth, ac wedi anfon ychydig gyhoeddiadau ar y ffordd; ac wedi anfon y buaswn y Sabboth dilynol yn Bwlch Newydd, yr hwn le oedd ar y pryd yn wag Yr oeddwn yn Nhrefdraeth nos Fawrth, ac yr oedd y capel yn orlawn a llawer mewn teimladau dwys. Mynnent i mi aros yno, ac ni buasai dim yn haws i mi na chael mwyafrif mawr yr eglwys o'm plaid, ond gwrthodais. Aethum ymaith yn fore drapnoeth, wedi casglu y cwbl a feddwn ynghyd, ac nid oedd hynny ond ychydig. Bu rhai o honynt yn garedig iawn i mi fel na chefais fyned ymaith yn waglaw. Yr oeddwn yn Llwyn yr Hwrdd nos Fercher, ac wedi anfon cyhoeddiad i fod yn Nhrelech ganol dvdd Iau. Cefais yn Llwyn yr Hwrdd fod Cymanfa Ysgolion i fod yn Nhrelech, a dymuniad am i mi fod yno yn fore. Yr oedd y capel yn orlawn. Gosodwyd fi i holi un o'r ysgolion, allan o Holwyddoreg Mr. Hughes, ac ymddengys ddarfod i mi wneyd hynny yn foddhaol iddynt. Hebryngwyd fi gan un o feibion Owen Picton, Glanrhyd, hyd Ffynnon Bedr. Erbyn cyrraedd cefais fod Cymanfa Ysgolion yno hefyd, ac amryw na fuasai yno oni bai hynny, wedi aros i'r oedfa. Cydbregethai Warnott Edwards a minnau. Aethom i letya i Plasparciau ein dau, a daeth Mr. Jones, Ffynnon Bedr, a James Thomas (Tresimwn), yr hwn oedd newydd ddechreu pregethu, yno gyda ni. Dyma fy nghyfarfyddiad cyntaf a'r cyfaill hoff James Thomas. Yr oedd efe wedi dyfod i Ffynnon Bedr i'r Gymanfa Ysgolion gydag ysgol 'Raber, cangen o Bwlch Newydd. Aelod yn Bwlch Newydd oedd John Davies, Plasparciau, er ei fod yn ymyl Ffynnon Bedr; ond aethai oddiyno rai blynyddoedd cyn hynny gydag amryw eraill, y rhai a gychwynasant Gibeon, oblegid rhyw anghydwelediad yn newisiad gweinidog. Yr oedd John Davies yn ddyn deallgar, yn ddarllenwr mawr ac yn hoff iawn o byncio a dadleu. Disgybl i Mr. Davies, Pant Teg, ydoedd, ac wedi ei faethu yn ei athrawiaeth. Gwyddai y "Llyfr Glas," fel y gelwid "Galwad Ddifrifol" John Roberts—i gyd, ac yr oedd wedi ei fwyta oll. Mae yn debyg fy mod wedi ei daro wrth bregethu; ac wedi myned i'r tŷ a chael swper, dechreuodd ar ei hoff bynciau, a buom wrthi hyd y bore. Yr oeddwn yn digwydd bod yn bur gyfarwydd a'r cwestiynau hynny, oblegid dyna oedd cwestiynau y dydd, ac yr oedd y lleill wedi gadael y siarad bron yn gwbl i ni ein dau. Nid oeddwn wedi deall fod unrhyw gysylltiad rhyngddo a'r Bwlch Newydd, nes iddo ddweyd wrthyf pan yn ymadael bore Gwener, y cai fy ngweled yn Bwlch Newydd bore Sabboth.