Neidio i'r cynnwys

Gwaith Joshua Thomas/AT Y DARLLENYDD

Oddi ar Wicidestun
CYNHWYSIAD Gwaith Joshua Thomas

gan Joshua Thomas


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
DIBEN HANES

AT Y DARLLENYDD

Y CYMRO MWYN; Os darlleni y dalennau canlynol yn yr un ysbryd yr ysgrifenwyd hwy, ni ferni di ddim o'r Awdwr yn galed iawn, pe digwyddai i ti ganfod rhai camsyniadau yn yr Hanes. Gwir diragrith yw, "Yr hyn a allodd hwn, efe a't gwnaeth."

Am y Rhan gyntaf; nid yw ond golwg gynnwys gyffredin ar hir amser, er mwyn i'm cyd wladwyr, yn hawdd, ddeall y modd rhyfedd yr ymddygodd y Duw tirion tuag at ein cenedl ni; o bosibl, tu hwnt i'r holl genhedloedd eraill trwy'r byd, yn achos eu heneidiau gwerthfawr: er iddynt fod mewn tywyllwch truenus dros hir oesoedd.[1]

Yn yr ail Ran, rhoddir Hanes y Bedyddwyr yn fwy neillduol. Gan nad amcanwyd y fath beth erioed o'r blaen, ar wn i, yng Nghymru, nid oes un darllenydd deallus a ddisgwyl i'r hanes fod yn gwbl berffaith. Pwy bynnag a ddangoso i mi gamsyniadau, ac a'u profo felly, gan eglur hysbysu yr hyn sydd gywir, byddaf dra diolchgar iddo; ac yn gwbl barod, gobeithio, naill ai i gyfaddef bai, neu i brofi'r gwirionedd.

Mae'n agos 30 o flynyddau er pan y soniwyd wrthyf am ysgrifennu hanes y Bedyddwyr yng Nghymru. Nid hir y bu'm wed'yn cyn dechreu ymholi, casglu, ac ysgrifennu ychydig. Bu y gorchwyl yn fy ngolwg, fwy neu lai, o hynny hyd yma. Cefais gynnorthwy amryw hen aelodau o'r Bedyddwyr, rhieni pa rai a fuasent yn dioddef llawer dros grefydd. Mae'r aelodau hynny wedi myned i orffwys ar ol eu tadau. Cefais hefyd gynorthwy gan amryw ag sydd eto ar dir y byw. Yr wyf yn mawr ddiolch iddynt oll am eu caredig barodrwydd i hynny.

Wrth ysgrifennu enwau ein cyd-wladwyr, ni ellais yn gwbl foddio fy hun. Bwriadais ar y cyntaf eu gosod oll yn Gymraeg, ond bernais y buasai Iago, Ioan, &c., yn edrych ac yn seinio yn chwithig i'r oes hon, er eu bod yn ysgrythyrol. Heblaw hynny, nid yw bosibl gosod yr ail enwau, sef Davies, Jones, &c., yn Gymraeg gywir heb eu troi tu hwnt i ddeall llawer. O herwydd y pethau hyn, a bod y Cymry, gan mwyaf yn awr, yn ysgrifennu eu henwau yn Saesneg, mi a'u canlynais, ac a osodais y rhan fwyaf o'r enwau yn ol trefn y Saeson a'r Cymry presennol. Odid na bydd rhai yn beio ar hynny, ond ysgatfydd, buasai mwy yn beio ar y ffordd arall. Gwell fuasai gennyf fi eu bod yn Gymraeg ddigymysg. Ond mae'n cenedl ni wedi gwyro, dryllio, a llarpio eu henwau, a threfn yr hen Frutaniaid yn ddireswm, er pan ddarfu iddynt ymheddychu â'r Saeson, sef ys rhwng dau a thri chan' mlynedd. Amcanwyd difetha'r iaith Gymraeg hefyd yr amser hynny ac wedyn.

Mi arferais y geiriau Presbyteriaid, Independiaid, Methodists, ac weithiau Calfinistiaid ac Arminiaid, yn unig mewn ffordd o wahaniaeth, pan y byddai achos: ond nid yn y mesur lleiaf, mewn ffordd o amharch neu ddiystyrwch. Mi a ddechreuais arfer y gair Methodistiaid, gan ei fod ryw faint yn fwy Cymreigaidd; ond meddyliais y gallai rhai anwybodus dramgwyddo wrth y sain hynny, am ba achos aferais y gair Methodists. Fy amcan yw bod yn ddidramgwydd, neu o leiaf, yn ddiachos tramgwydd, ac yn garedig i bawb.

Byddai dda iawn gennyf pe byddai'n brodyr, yr Ymneillduwyr eraill, yn casglu ac yn argraffu eu hanes hwythau ymhlith y Cymry o'r dechreuad. Os gallwn i fod o unrhyw gynorthwy, byddwn yn barod iawn i hynny.

Pe byddai rai o'r brodyr, y Methodists (neu eraill) o Eglwys Loegr, hefyd yn rhoi hanes byr o wyr duwiol yr Eglwys honno ymhlith y Cymry, ac o'r hen Frutaniaid duwiol, gannoedd o flynyddau cyn son am Eglwys Grisnogol ymhlith y Saeson, ac yn neillduol, o'r diwygiad diweddar trwy'r Methodists,[2] o'u dechreuad hwy hyd yma, gallai fod yn dra defnyddiol. Byddai da iawn gennyf fi weled hanesion helaeth o ddaioni Duw i'r Cymry bob amser.

Er nad ydym oll yn gallu hollol gytuno ymhob peth mewn crefydd, eto dymunwn i ni allu ymddwyn tuag at ein gilydd fel brodyr yn Iesu Grist. Nid yw amharchu ein gilydd yn un rhan o grefydd efengylaidd.

JOSHUA THOMAS.
Llanllieni
31 o Ragfyr, 1777.

Nodiadau

[golygu]
  1. Mae Dr. Stillingfleet. Rapin, a rhai awdwyr diweddar eraill yn Dewis barnu i'r Efcngyl gael ei phregethu i'r hen Cymry yn gyntaf gan yr Apostol Paul, neu un o r apostolion; ac nid gan Joseph o Arimathea. Os Dewis rhai eraill farnu yr un ffordd, bodlon wyf fi.
  2. Am y diwygiad hwnnw, y mae gweinidog duwiol deallus o Eglwys Loegr (Mr Newton), yn ei bregeth ar farwolaeth Mr Whiteficld. yn dywedyd fel y canlyn. Ei destyn oedd, "Efe oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleu." Ioan v. 35. Wrth sôn am Mr Whitefield dywed, Cyfodwyd ef i lewyrchu mewn lle tywyll. Yr oedd crefydd yn isel iawn yn ein heglwys ni pan y dechreuodd ef ymddangos yn gyhoeddus. Y gwirionedd yr wyf yn ei ddywedyd, er y dichon fod yn wir tramgwyddus i rai. Cyn ei ymddangosiad ef. anfynych y clywyd son am athrawiaethu grâs o r pulpud, ac nid oedd ond ychydig wybodacth o fywyd a grym duwioldeb. Yr oedd llawer o'r rhai mwyaf ysprydol ymhlith yr Ymneillduwyr yn galaru wrth weled mawr adfeiliad yn ymdanu yn eu mysg hwythau." Yr wyf yn barnu mai hyn yw'r gwir, mewn byr eiriau, o ran crefydd trwy Loegr a Chymru cyn cyfodi'r Methodists. Sonir mwy am y diwygiad hwn yn tu dal. 51. &c. Ganwyd Mr. Whitcfield yn 1714. Pregethodd ei bregeth gyntaf yng Nghaerloyw, lle ei enedigaeth, fis Mehefin, 1736 Bu farw vn America y 30 o Fedi, 1770. Dr. Gillies, Memoirs of Mr Whitefield, page 1, 9, 10, 269, 342.