Neidio i'r cynnwys

Gwaith Joshua Thomas/CYMRU YN 1777

Oddi ar Wicidestun
CYFNOD Y DIWYGIAD METHODISTAIDD Gwaith Joshua Thomas

gan Joshua Thomas


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
HYSBYSEBION

X. CYMRU YN 1777.

P. A ydyw'r Cymry yn gyffredin yn gariadus tuag at eu gilydd?

T. Dymunol iawn pe byddent yn well nag y maent; ond y maent lawer yn well nag y buant.

P. Onid yw'r naill yn arfer dirmygu'r llall, a'u llysenwi ac felly difrio eu gilydd? Byddai dda gennyf i chwi ddangos dechreu ac ystyr y gwahanol enwau cyffredin yn y wlad, ac mewn rhai llyfrau.

Crefyddwyr 1777

T. Mi amcanaf wneyd hynny cyn rhoi fyny

1 PROTESTANIAID; dywedais yr achos o'r enw, ac ystyr y gair, dechreuwyd ef o gylch 1530, neu flwyddyn neu ddwy yn gynt, medd rhai. Protestaniaid yw Eglwys Loegr a'r Ymneillduwyr oll.

EGLWYS LOEGR; dechreuwyd a sefydlwyd hi trwy gyfraith y tir, o gylch 1534, fel y nodwyd. Cyfrifwyd Cymru yn yr Eglwys hon, am ei bod y pryd hynny dan yr un gyfraith a Lloegr, ond bu llawer iawn o'r Cymry yn Babtistiaid yn hir amser wedi hynny.

3. PURITANIAID; enw o ddirmyg oedd hwn, a roddai Eglwys Loegr ar y rhai na allent gytuno a'i defodau mewn addoliad. Mynnai llawer yn y wlad i'r trigolion yn gyffredin fod yn burach yn eu haddoliad oddiwrth Babyddiaeth; ac yn fwy yn ol y Gair; am hynny mewn ffordd o wawd, galwyd y rheini, Puritaniaid neu Purwyr. Yr oedd y Bedyddwyr, y Presbyteriaid, a'r Independiaid, yn myned dan yr enw hwn fel eu gilydd, yn amser y Frenhines Elizabeth ac yn y blaen.

4. YMNEILLDUWYR; yr un pobl oedd ac ydyw y rhai hyn a'r Puritaniaid. ond bod yr olaf yn ddifenwad: a'r llall, yr enw oeddent yn roddi arnynt eu hunain. Mae rhai dynion anwybodus nad ydynt ddim fodlon cyfrif y Bedyddwyr yn Ymneillduwyr neu Dissenters; ac felly y mae rhai anwybodus yn Eglwys Loegr yn anfodlon cyfrif neb o'r Ymneillduwyr yn Brotestaniaid. Ystyr y gair Ymneillduwr yw, eu bod yn neillduo neu yn gwahanu yn eu barn oddiwrth Eglwys Loegr mewn addoliad.

5. PRESBYTERIAID; ystyr y gair yw Henuriaeth, 1 Tim. iv. 14. Wedi hir ddioddef erledigaeth, darfu i rai o'r Ymneillduwyr ymgorffoli yn eglwysi yn ol y Gair, yn oreu ag y gallent gytuno. Ond nid oeddent oll o'r un farn. Yr oedd y Presbyteriaid yn barnu y dylai yr eglwysi gael eu llywodraethu gan yr henuriaid, sef y gweinidogion, ac y gallai amryw henuriaid. ymgynghori a'u gilydd pa fodd i lywodraethu eu heglwysi.

6. INDEPENDIAID; ystyr y gair yw, un yn sefyll arno ei hun, a'i ddiben yma yw hyn. Mae'r bobl hyn yn barnu, fod gan Eglwys awdurdod ynddi ei hun yn ol y Gair, i wneyd yn eu plith eu hunain yr hyn oll a berthyn iddynt fel eglwys; ac nad oes gan un gweinidog arall ddim i wneyd a hwy fel Eglwys. Felly darfu iddynt hwy ymneillduo oddiwrth y Presbyteriaid o gylch 1616. Yr oedd y Bedyddwyr gan mwyaf o'r un farn a'r Independiaid, ac felly yn yr un cymundeb ar y cyntaf, ond yr oeddent yn gwahanu mewn Bedydd.

T. BEDYDDWYR; ystyr y gair yw, rhai yn bedyddio, neu yn arddel Bedydd. Mae rhai yn eu galw Ailfedyddwyr.

P. Pa un o'r ddau enw sydd gywir?

T. Am y rhai sy'n barnu yn eu cydwybodau, fod taenelliad babanod yn wir Fedydd ysgrythyrol, rhaid fy mod i yn Ailfedyddiwr, yn eu barn hwy; canys fe'm taenellwyd yn faban, ac mi a fedyddiwyd mewn oedran. Ond er hyn, nid wyf fi'n barnu i mi gael fy medyddio ond un waith; gan hynny, yr wyf yn cyfrif mai llysenw yw Ailfedydd.

P. Onid yw eich galw chwi yn Fedyddwyr yn cyfrif y lleill yn ddifedydd oll?

T. Mae felly, a hawdd yw deall fy mod i yn meddwl hynny. Pe bawn i yn credu fod eu bedydd hwy yn iawn, mi a fyddwn Ailfedyddiwr yn fy marn fy hun a thrwy ymarferiad. Ond nid wyf ddim yn meddwl fod eraill yn cyfrif eu hunain yn ddifedydd.

P. Pa fodd y gellir galw dynion, mewn ffordd o wahaniaeth yn ddidramgwydd?

T. Yr wyf fi yn galw fy mrodyr a'm cymydogion o wahanol farn, Bedyddwyr Plant, er peidio a'u tramgwyddo; ac am fy mod yn barnu eu bod hwy yn meddwl fod taenelliad yn fedydd, er nad wyf fi yn credu ei fod felly. Minnau a fynnwn iddynt hwythau ein galw ni Bedyddwyr, am ein bod ni yn credu felly; neu ynteu galwent ni Bedyddwyr y crediniol; gallant fod yn ddigon rhydd i hynny, a chadw Bedydd plant hefyd. Ond os dewis neb ein galw Ailfedyddwyr, ac na orwedd un gair arall mor esmwyth ar eu tafod, elent yn y blaen; os niwed sydd ynddo, iddynt hwy y mae, yn fwy nag i ni. Eto, ystyrient, fod gennym yn gwbl yr un sylfaen i'w galw hwy yn ddifedydd. Ond dylem oll ymddwyn, hyd y gallom, yn ddiachos tramgwydd.

Beiblau ac Eglwysi 1777.

P. Bydd da gennyf os rhoddwch eich meddwl am gyflwr Cymru yn awr.

T. Mi nodais yn barod, fod gair Duw yn y wlad er 1769 a 1770, yn amlach o lawer nag y bu erioed o'r blaen ymhlith y Cymry. Yr wyf yn hollol feddwl na bu erioed ymhlith ein cenedl ni gynifer o bobl dduwiol o Eglwys Loegr, weinidogion ac eraill, er pan y dechreuwyd hi o gylch 1534. Ni bu ymhlith y Cymry gynifer o eglwysi o Fedyddwyr ys mil o flynyddau, beth bynnag oedd o'r blaen. Yr wyf fi yn meddwl hefyd fod Ymneillduwyr eraill mor amled, neu yn amlach nag erioed yn y wlad, er eu bod wedi mawr leihau ys 60 mlynedd ar gyffiniau Lloegr. Mae ganddynt hwy aelodau a thai cyrddau yn y tair sir ar ddeg o Gymru. Mae rhai siroedd heb ddim Bedyddwyr ynddynt wedi ymgorffoli yn eglwysi, er fod eu gweinidogion, yn ddiweddar, yn pregethu ar brydiau yn y siroedd hynny.

Gwybodaeth a moesoldeb.

Yr wyf yn meddwl hefyd na bu erioed, ymhlith y Cymry yn gyffredin, gymaint gwybodaeth o Dduw, a chymaint o foesoldeb yn eu plith; er fod gormod eto yn parhau o anfoesoldeb. Yr wyf yn barnu eu bod yn deall mwy o Saesnaeg yn y wlad nag erioed; eto mae'r Gymraeg wedi diwygio llawer arni wedi 1700, a llawer o lyfrau wedi eu hargraffu yng Nghymru, o bryd i'r llall: ac yn ddiweddar mae argraffwasg da yng Nghaerfyrddin, a rhai mewn amryw leoedd eraill yng Nghymru. Yr wyf fi'n tybied fod llai o ragfarn rhwng gwahanol bobl nag a fu ys cannoedd o flynyddau. Er nad yw yr Ymneillduwyr yn pregethu yn y llannoedd, eto maent yn myned yno i wrando yn fynych; a rhai o weinidogion Eglwys Loegr yn pregethu yn y Tai Cyrddau. Cywiro Peter Williams.

P. Dywedasoch i'r Cymry dderbyn Pabyddiaeth yn hollol yn y flwyddyn 763. Ond y mae Mr. Peter Williams yn ei lythyr o flaen y Beibl, a argraffwyd yng Nghaerfyrddin, yn dywedyd i wir grefydd gael ei maentumio gan y Cymry hyd 1115, ac nad ymostyngasant i'r Pab hyd y flwyddyn honno. Pa fodd y cydsaif y pethau hyn?

T. Nid wyf fi yn ameu na ddarfu i Mr. Peter Williams ddarllen, neu glywed, nen gasglu felly. Ni wn i am un ffordd arall i farnu am yr amseroedd gynt. Nid yw Mr. Williams ddim yn dywedyd ar ba awdurdod y mae'n seilio yr hyn sydd yn ei lythyr. Mae Mr. Thomas Williams, ein cydwladwr, yn dywedyd i Cadwalader Fendigaid, brenin diweddaf y Cymry, fyned i Rufain er mwyn byw yn grefyddol, a marw yno.[1] Mae Caradoc o Lancarfan, neu un o'i ddiwygwyr, yn cytuno â hyn, o ran y sylwedd; ac yn dywedyd i Cadwalader gael ei dderbyn yn garedig gan y Pab, ac wedi byw yno wyth mlynedd, iddo farw yno yn 688[2] . Wrth hyn ymddengys fod yr hen Gymry yn gyfeillgar ag Eglwys Rufain cyn y flwyddyn 700. Cymerodd Mr. Theophilus Evans lawer o boen a gofal i chwilio hanesion y Brutaniaid, fel y noda yn ei lythyr o flaen ail argraffiad "Drych y Prif Oesoedd." Mae fe yno yn dywedyd i Babyddiaeth ennill ar ein cydwladwyr, of fesur cam a cham, ac o'r diwedd iddynt lyncu y llyffant yn lân yn 763.[3] Mae fe yn nodi ei fod wedi cael yr hanes o waith Mr. Humphrey Lloyd. Mae gwaith Mr. Lloyd gennyf fi, ac mae'r hanes yno ag sy'n "Nrych y Prif Oesoedd," ond ei fod yn dywedyd 762 ac nid 763[4] Mae Mr. Evans yno yn nodi ymhellach i'r Cymry yn ddiddadl ymroddi yn gwbl i Babyddiaeth tua'r flwyddyn 1000, neu'n gynt. Mae Mr. S. Thomas yn nodi nad ellir dywedyd yn sicr pa bryd yr ymddarostyngodd y Cymry i'r Pab, ond ei fod yn debyg mai o gylch y flwyddyn 1000 y bu hyn. Mae fe yn dal sylw hefyd fod hanes i eglwysi Cymru gytuno i fod dan olygiad Archesgob Caergaint[5] yn 1115.[6] Yma mae Mr. Thomas yn cytuno â Mr. Williams o ran amser, ond nid am y lle. Mae Mr. Thomas yn dywedyd Canterbury, a Mr. Williams yn dywedyn Caergrawnt.[7] Yr wyf yn meddwl iddo ef neu'r argraffydd fod yn wallus yma. Diau gennyf fi mai Caergaint a ddylasai fod. Canys nid wyf yn cofio i mi glywaid erioed am Archesgob Caergrawnt. Ond hawdd iawn oedd i'r fath wall ddigwydd. Ar y cyfan, yr wyf fi yn meddwl hyn, wrth yr hanes a rydd Dr. Godwin, Esgob Llandaf, am Lawrence, Archesgob Caergaint yn y flwyddyn 611, &c., tybygid i'r Cymry dyneru llawer tuag at Babyddiaeth yn yr amser hynny. Mae Dr. Godwin yn dywedyd ymhellach i holl Frydain gydffurfio ag Eglwys Rufain yn amser Theodore, Archesgob Caergaint, yr hwn a fu farw yn 690.[8] Yn ei amser ef yr aeth Cadwalader i Rufain fel y nodwyd.[9] Oddiwrth y pethau hyn gellir casglu i'r Cymry yn raddol droi yn Babistiaid, a'u bod yn gwbl felly cyn y flwyddyn Soo, a rhyfedd oedd iddynt ddal allan cyhyd. Ond y mae'n debyg nad oes dim hanes ysgrifenedig am ddarostyngiad y Cymry i Archesgob Caergaint cyn 1115. Eto mae Mr. H. Lloyd, yn y lle a nodwyd, yn dywedyd yn 1568, ei fod ef yn cofio iddo ddarllen fod un Elbod yn Archesgob Gwynedd, ac iddo gael ei ddyrchafu i'r anrhydedd hynny gan Esgob Rhufain; ac mai efe oedd y cyntaf a gymododd y Cymry ag Eglwys Rufain, 762. Yr wyf fi yn barnu fod y Cymry yn Bapistiaid yn hîr cyn iddynt ymddarostwng i Archesgob Caergaint, gan fod y gelyniaeth mor fawr rhwng y Cymry a'r Saeson.

Addysg Gweinidogion yn 1777

P. Pa drefn a gymerodd yr Ymneillduwyr yng Nghymru tuag at roi dysg i'w gweinidogion o'r dechreuad hyd yma?

T. Ymdanodd yr Ymneillduwyr, fel y nodwyd, ar hyd y wlad, trwy lafurus weinidogaeth gwyr a ddugwyd i fyny yn Rhydychen, mewn bwriad i fod yn weinidogion Eglwys Loegr. Dangoswyd yn barod fel yr oeddid yn gwneyd o gylch 1653. Wedi dyfod yr erledigaeth yn 1660, &c., yr oedd amryw o'r gweinidogion a drowyd allan o'r llannoedd yn ysgolheigion da, ac eraill o honynt yn weinidogion doniol duwiol, heb gael llawer o ddysg mewn ysgolion. Tra parhaodd yr erledigaeth, yr oedd rhai yn anfon eu plant i'r ysgolion lle y gallent ar hyd y wlad, a rhai yn cael eu danfon i Loegr. Yr oedd rhai o'r gweinidogion a droasid o'r eglwysi yn cadw ysgolion yn yr un lle a'r llall. Byddai rhai dynion ieuainc gobeithiol yn myned atynt hwy. Yr oedd Mr. Samuel Jones o Fryn Llywarch, ymhlwyf Llangynwyd, yn sîr Forganwg, yn cadw ysgol. Efe a ddysgodd amryw, a hefyd Mr. James Owens, yn y Mwythig.[10] A Mr. Rees Prydderch hefyd.[11] Mr. Richard Frankland oedd wr enwog yn Lloegr.[12] Yr oedd Mr. Reynald Wilson hefyd yn cadw ysgol yn sîr Drefaldwyn. Ond wedi dyfod heddwch, a marw y gwyr da hyn, neu rai o honynt, gosododd Mr. William Evans brifysgol i fyny yng Nghaerfyrddin. Coleg Caerfyrddin.

Nid wyf fi sicr pa flwyddyn y dechreuodd, ond yr wyf yn meddwl i'r ysgol gael ei gosod i fyny yno. ar farwolaeth Mr. James Owen, yr hyn a fu yn y flwyddyn 1706, fel y dywed Dr. Calamy, yn y lle a enwyd uchod. Os ni ddechreuwyd ysgol Caerfyrddin yr amser hynny, nid hir y bu cyn dechreu wedi hynny. Ar ôl marw Mr. W. Evans, dewiswyd Mr. Thomas Perrot i fod yn athraw y brif ysgol yng Nghaerfyrddin. Dywedir i Mr. Thomas Perrot, o New market, yn sîr Fflint, gael ei ordeinio yn Knutsford, yn sir Gaerlleon, yn 1706. Yr oedd dau eraill yn cael eu hordeinio gydag ef. Mr. Mathew Henry oedd yn derbyn eu cyffes ffydd. Yr oedd o gylch 18 o weinidogion yn bresennol ar yr achos. Yr wyf yn meddwl mai'r gwr hwnnw fu yn Nghaerfyrddin."[13] Mae'r ysgol

Coleg y Fenni.

yn cael ei chadw yno hyd yn hyn. O achos rhyw anghydfod, gosododd yr Independiaid brif ysgol i fyny yn y Fenni, am nad oeddent yn cytuno â phob peth yn ysgol Caerfyrddin. Yr athraw cyntaf yn y Fenni oedd Mr. D. Jardine, gwr o Ddinbych, o gylch y flwyddyn 1754. Wedi ei farw ef dewiswyd ei gynnorthwywr, Mr. Davies, i fod yn athraw yr ysgol. Mae efe yno yn awr. Aeth amryw o weinidogion duwiol, doniol, a defnyddiol, allan o'r ysgol hon, rhai i Gymru, ac eraill i Loegr. Mae ysgol Caerfyrddin yn myned, gan mwyaf, dan yr enw Presbyteriaid; a'r un yn y Fenni dan yr enw Independiaid.

Trefn Addysg y Bedyddwyr.

P. Pa fodd y mae'r Bedyddwyr, yn fwy neillduol, yn gwneyd am ddysg i'w gweinidogion?

T. Y drefn fwyaf cyffredinol yn eu plith yng Nghymru yw hyn: pan fyddo argoel gobeithiol fod doniau gweinidogaethol yn rhai o'u haelodau ieuainc, neu rai mwy oedrannus, y maent yn annog y cyfryw i arfer eu dawn yn yr eglwys. Wedi bod fel hyn ar brofiad ryw amser, os byddir yn barnu eu bod yn debyg i fod yn ddefnyddiol, y maent yn rhoi galwad iddynt i bregethu. rhai hyn yn digwydd bod o amryw amgylchiadau; rhai o honynt wedi cael dysg o'r blaen mewn ysgolion cyffredin y wlad, heb ddim golwg tuag at y weinidogaeth; eraill heb gael ond ychydig o ddysg. Barn gyffredin y Bedyddwyr yng Nghymru yw mai rhodd Duw yn unig yw gras a dawn gweinidogaethol: ac mai fel yr oedd Duw, yn amser yr apostolion, yn galw rhai dysgedig a rhai heb lawer o ddysg i waith y weinidogaeth, felly mae'n gweled y dda gwneyd hyd heddyw. Bydd rhai o honynt yn myned i'r ysgol, er mwyn dysgu ychwaneg, wedi dechreu pregethu; ac eraill dan amgylchiadau nad allant fyned; a rhai nad ydynt yn dewis myned. Bu yng Nghymru lawer o weinidogion enwog, heb fod erioed mewn prif ysgol, wedi dechreu pregethu, megis Lewis Thomas o'r Mwr, gerllaw Abertawe; Mr. Morgan Jones, a'i fab, Mr. Griffith Jones, Mr. Samuel John, Mr. Morgan Griffiths, Mr. John Jenkins, Mr. Thomas Mathias, Mr. Enoch Francis, Mr. Henry Gregory, Mr. David Thomas o Gilfowyr, &c. O honynt yr oedd rhai yn ddysgedig, a rhai heb lawer o ddysg mewn ysgolion.

Athrofa Bryste.

Yn 1720 darfu i Mr. Bernard Foskett, bugail Eglwys y Bedyddwyr yn Broadmead, Brysto, gymeryd gwr ieuane gobeithiol o Gymru, i'w hyfforddi yn yr hyn oedd fuddiol tuag at y weinidogaeth. Enw'r gwr ieuanc oedd Thomas Rogers, o Bontypwl, yn sîr Fonwy; ac ar fyrr wedi hynny daeth gwr ieuanc arall ato, i'r un diben, sef Mr. John Phillips, o Rydwilim. Parhaodd y gwr parchedig hwnnw tra fu byw i hyfforddi gwyr ieuanc, o Gymru a Lloegr, mewn dysgeidiaeth fuddiol i'r weinidogaeth. Bu Mr. Hugh Evans, M. A., yn cynorthwyo Mr. Foskett yn y gwaith da hwn lawer o flynyddau. Ac y mae ef a'i fab, Mr. Caleb Evans, M.A., yn parhau yn y llafurus waith hyd heddyw. Mae amryw o Gymru wedi bod yno, a rhai o honynt wedi dychwelyd i'w gwlad eu hunain, ac eraill wedi myned at eglwysi amddifaid yn Lloegr, neu i'r Iwerddon.

Diolch y Plentyn.

P. Mawr ddiolch i chwi am yr hanes oll. Byddai dda gennyf pe gallech roddi ychydig o hanes eglwysi y Bedyddwyr yn neillduol.

T. Bodlon iawn wyf fi; ond mae gormod o waith ar hyn o bryd. Mi amcanaf roi hanes neillduol pob eglwys o honynt ar ei phen ei hun, o'r dechreuad hyd yr amser hyn, a rhoddi'r cyfan yn y drefn oreu ag allwyf. Yna cei di ac eraill ei weled, ac odfa i'w ystyried. Gweled Duw yn dda wneyd hyn o ymddiddan byrr yn fuddiol i lawer iawn o'n cydwladwyr, fel y rhyfeddont fawr ddaioni Duw i'n cenedl ni dros gynnifer o oesoedd, er amser yr Apostolion; ac yn enwedig yn yr oes hon, uwch law'r holl amseroedd o'r blaen.

Nodiadau

[golygu]
  1. "Oes Lyfr," tu dal. 81, 82.
  2. "History of Wales," P. 9. &c.
  3. "Drych y prif oesoedd, tu dal. " 267. &c.
  4. "Breviary of Britain," 67
  5. Canterbury
  6. "Hanes y byd a'r amseroedd," tu dal. 149, 202.
  7. Cambridge,
  8. Catalogue, pp. 49, 54.
  9. Dywedir i esgob a elwid Aldhelm gael ei drefnu mewn cymanfa i ysgrifennu yn erbyn y Brutaniaid, am nad oeddent yn cytuno â defodau crefyddol Eglwys Rufain. Wedi i'r gwr hwn ysgrifennu, dywedir i'w lyfr gael y fath effaith ar lawer o'r Brutaniaid fel y darfu iddynt gydffurfio â defodau y Rhufeiniaid. Mae'r hanes yn nodi i'r ysgrifennydd hwn farw ynghylch y flwyddyn 708.—"New History of England," 4th Edition 1753, P. 218.
  10. Ejected Ministers," P. 721.
  11. Ibid," P. 720.
  12. "Ibid," P. 284, &c.
  13. Mr. M. Henry's Life," P 193.