Neidio i'r cynnwys

Gwaith Joshua Thomas/JOSHUA THOMAS

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Joshua Thomas Gwaith Joshua Thomas

gan Joshua Thomas


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
HANES Y BEDYDDWYR

JOSHUA THOMAS.

GANWYD Joshua Thomas yng Nghaio, Chwef. 22, 1719; bu farw yn Llanllieni (Leominster), Awst 25 1797

Yr oedd yn fab i Forgan Thomas o'r Ty Hen, Caio. Yn Ionawr 1746 priododd, ac ymsefydlodd yn y Gelli (Hay). Tra yno pregethai yng nghapel y Bedyddwyr ym Maes y Berllan.

Yn 1754 cawn ef yn fugail y Bedyddwyr yn Llanllieni (Leominstei). Cadwai ysgol yno hefyd. Ac yno y bu hyd ddydd ei farw.

Cyd-oesai a Gruffydd Jones Llanddowror, clywodd Daniel Rowland yn pregethu, a gwyliai'r Diwygiad Methodistaidd fel beirniad addfwyn. Ysgrifennodd hanes ei enwad yn fanwl a gofalus iawn, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yr oedd ysfa lenyddol a chrefyddol yn ei deulu. Ei frawd Timothy oedd cyfieithydd "Y Wisg Wen Ddisglair," llyfr fu a dylanwad dwys er deffro ysbryd crefydd Cymru.

Y mae "Hanes y Bedyddwyr" yn llyfr safonol yn hanes yr enwad; y mae'n bwysig iawn eto i efrydydd hanes Cymru. Y rhan fwyaf gwerthfawr yw'r rhan sy'n trin y ganrif y gwyddai Joshua Thomas fwyaf am dani, sef y ganrif yn diweddu tua 1777.

Y mae llawer wedi ei chwilio ar hanes John Penry a'r Hen Ficer. Ond dengys Joshua Thomas gipolygon ar lawer o rai ereill,—Syr Thomas Middleton, yr Esgob Lloyd, Stephen Hughes, Thomas Gouge, ac yn enwedig ei arwr ef ei hun, sef Vavasour Powel. Nid oes neb wedi ei esgeuluso gymaint yn hanes Cymru a Vavasour Powel. Mwyn yw cael y darluniad ohono yn y gyfrol hon.


Nodiadau

[golygu]