Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Ar Lan y Weilgi Unig

Oddi ar Wicidestun
Ar Lan y Ddyfrdwy Lonydd Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Iachawdwriaeth

AR LAN Y WEILGI UNIG

AR lan y weilgi unig
Hen graig ei hysgwydd gwyd,
I lochi bwthyn gwledig
A'i dô a'i fur yn llwyd;
Ysgubodd myrdd o stormydd
Dros goryn moel y graig,
A gwenodd llawer haf-ddydd
Ar fwthyn glân yr aig.

Mae'r donn yn curo'r glannau
'Run fath a meddwyn ffôl,
A'r graig yn cau ei dyrnau
I daro'r donn yn ol;
Y storom sy'n ymgodi,
Mae'r gwynt yn rhuo'n waeth,
Nes tyrr cerbydau'r weilgi
Yn deilchion ar y traeth.

'Roedd gwraig yn suo'i baban
Ym mwthyn glan y môr,
'Doedd rhyngddi ag angeu'i hunan
Ond trwch a nerth y ddôr;
Fe gysgai'r bach yn dawel,—
Rhy ieuanc ydoedd ef
I deimlo'r storom uchel,
Na deall gŵg y nef.

Dau wyliwr dewr y glannau
A droent i mewn yn awr,
A'u dillad yn gareiau
Gan nerth y storom fawr;

Eu gwedd arweddai bryder,
A phryder wnai fwyhau
Ym mynwes y fam dyner
Wrth sylwi ar wedd y ddau.

Cydgraffai'r gwylwyr ffyddlon
Trwy'r ffenestr ar y donn,
Gan ddisgwyl gweld gweddillion
Rhyferthwy erchyll hon;
'Rol craffu hirion oriau
Ar olwg erch fel hyn,
Hwy welent ar y tonnau
Ryw smotyn bychan, gwyn.

Cydruthrai'r ddeuddyn allan,
Ond pan yn cau y ddôr,
Bendithient fam y baban,
A rhuthrent at y môr;
Ond prin cyrhaeddent yno
Y sypyn bychan gaed
Ar flaen rhyw foryn gwallgo,
Yn disgyn wrth eu traed.

Datblygent y dilladau,
A'r syndod mwya' 'rioed,
Ynghanol y plygiadau
'Roedd baban chwe mis oed;
Eu geirwon ddwylaw tyner
Gyfodai'r trysor iach,
A chludent ef mewn pryder
I fyny i'r bwthyn bach.


Yn awr fe welid yno
Ddau fach mewn hûn di-wall,
'Roedd un yn cysgu i ddeffro,
Ond cwsg y nef gai'r llall;
Wrth weled dlysed agwedd
Y marw bychan, gwyw,
Bron iawn na ddoi eiddigedd
I fam y plentyn byw.

Ni chaed un math o enw,
Nac un lythyren chwaith,
I adrodd hynt y marw,
Na'r lle dechreuai 'i daith;
Y ffeiriad calon gynnes
Ddywedai ar lan ei fedd, —
"Mae Duw yn gwybod hanes
Y bychan tlws ei wedd."

Daeth rhes o blant y dreflan,
Pob un â lili wen,
Hyd at y beddrod bychan,
I'w plannu uwch ei ben;
A dodwyd maen i'w gofio
O garedigrwydd llwyr,
Ac arno wedi'i gerfio
Y ddeuair,—"Duw a ŵyr."