Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Caru

Oddi ar Wicidestun
Darllawdy y tebot Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Y Ddannodd

CARU

MAE'N rhaid cael rhyw 'chydig o garu
Cyn byth bydd priodi'n y byd,
A rhaid cael rhyw adeg i hynny
Yn gyson, fel gwyddom i gyd;
Mao rhai'n mynd yn gall iawn i garu,
Cyn sobred, â'u dwylaw ymhleth,
Ond dwedir mai'r dylaf mewn teulu
Yw'r callaf yn hynny o beth.
Peth od fod dyn
Wrth garu mûn,
Yn gwneud y fath asyn o hono ei hun.

Os dylid cael goleu i rywbeth,
Fe ddylid cael goleu i gael gwraig ;
Mae dyn yn y t'w'llwch wrth bopeth,
Yn taro ei drwyn yn y graig;
Ac eto mae llawer o'r llanciau
Mor ffôl yn y wlad, onid oes?
A chymeryd y nos i gael goleu
I ddewis cymhares am oes;
Peth od fod dyn
Wrth garu mûn,
Yn gwneud y fath asyn o hono ei hun.

Ond yw e'n beth rhyfedd fod llencyn
Yn galw anwylyd ei serch,
Yn angel, neu'n seren, neu'n rosyn,
Yn bopeth anhebyg i ferch;

A dwedir fod rhai mor wirioned
Wrth garu yng ngoleu'r lloer dêg,
A thystio fod cariad yn gweled
Un seren yn bedair ar ddeg;
Peth od fod dyn
Wrth garu mûn,
Yn gwneud y fath asyn o hono ei hun.