Neidio i'r cynnwys

Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Pwy Sy'n Cnocio Wrth Y Ffenestr Gefn?

Oddi ar Wicidestun
Fy Ngwraig a Fi Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Nyth Heb Fêl

PWY SY'N CONOCIO WRTH Y
Y FFENEST GEFN?

(Aralleiriad o "Tapping at the Gate")

Pwy sy'n cnocio wrth y ffenest gefn?
Cnoc, cnoc, cnocio wrth y ffenest gefn
Bob 'n ail nos tua naw 'r un drefn,
Rhywun yn cnocio wrth y ffenest gefn;
Nid y gath o hyd sydd yn gwneud;
Jane, be' chi'n gwrido wrth im' ddweyd?
Peidiwch ag ysgwyd y stolion mor ffol,
Dyw'r cnoc, cnoc, cnoc, ddim dan y stol;
Bob 'n ail nos tua naw 'r un drefn,
Rhywun yn cnocio wrth y ffenest gefn.

O mor sly yw y gŵr pan ddaw,
'N aros gylch y tŷ o saith hyd naw,
Esgus gwneuthur sŵn â'r llwyau tê,
Sut mae'ch llaw chwi'n crynnu, eh?
Gwyn fy myd na fuaswn ì
'N gallu rhoi tro o gylch ytŷ;
Nid y gath sydd yn cnocio'n awr,
Fedr y gath ddim gwneud cnoc mor fawr;
Sut gŵyr cath faint 'di o'r gloch mewn trefn,
A mynd i gnocio at y ffenest gefn?