Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Sofren neu ddwy

Oddi ar Wicidestun
Yr eira Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Y Niagara

SOFREN NEU DDWY

RWY’N myned i ganu am brofiad pob dyn,
A chanu'r un amser fy mhrofiad fy hun,
Mae'r testun yn hynach na nhaid o ran oed,
Ac eto mor ieuanc a llon ag erioed ;
Y testun, gan hynny, yw sofren neu ddwy,
'Does dim sydd mor brydferth a sofren neu ddwy;
Mewn tref ac mewn gwlad,
Mae pob peth yn rhad,
Os bydd gan un weddill o sofren neu ddwy.

Pan fydd y cypyrddau yn mynd heb ddim bwyd,
A’r gôt ar y cefn yn edrych yn llwyd,
Pan fydd arnoch eisieu cael cyfaill neu ddau,
A gwneud i bob drysau i agor a chau,
I gael y rhai yna, a llawer iawn mwy,
'Does dim mor llwyddiannus a sofren neu ddwy.
Dyw'r banciau na'r siop
Ddim byth yn dweyd "stop,"
Tra clywant dinciadau rhyw sofren neu ddwy.

Os ydych am effeithio ar galon rhyw ferch,
A gwneud dyfnion glwyfau â saethau eich serch,
Oferedd yw eiriol yn daer gyda mûn,
Oferedd yw traethu eich cariad eich hun,
Ond dyma y ffordd i wneud effaith a chlwy,
Blaenllymwch y saethau â sofren neu ddwy.
Yn agos a phell,
'Does dim sydd yn well,
Yn sylfaen i gariad na sofren neu ddwy,


Pan ddaw diwrnod rhenti i gneifio'r holl wlad,
A phawb yn dadlwytho i berchen y stâd,
Neu fil am esgidiau, neu fil am y glo,
Neu filiau y teiliwr, y gweithiwr, a'r go,
Neu dreth y tylodion, neu ddegwm y plwy,
Mae'r cyfan yn toddi o flaen sofren neu ddwy.
Rhof glic ar fy mawd,
Yng nghanol pob gwawd,
Os bydd gennyf weddill o sofren neu ddwy.

Mae gallu angerddol ym mraich llawer gør,
A gallu diderfyn mewn tân, ac mewn dŵr,
Mae gallu rhyfeddol mewn ager a gwynt,
Mae gallu rhyfeddach o lawer mewn punt,
Mwy nerthol na'r creigiau yw sofren neu ddwy,
A thrymach na'r bryniau yw.sofren neu ddwy.
Y fellten gref, fawr,
A dynnir i lawr,
A rhed am ei bywyd rhag sofren neu ddwy.
 Gorffennaf 26, 1872.