Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Station Afon Wen

Oddi ar Wicidestun
I Fyny Mae Ymwared Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Ar Lan y Ddyfrdwy Lonydd

STATION AFON WEN

OS hoffech chwi gael gyrru
Eich natur dda i'r pen,
Neu brofi eich amynedd,
Ewch tua'r Afon Wen,
Cewch yno ddisgwyl oriau,
A goddef aml i sen,
Cewch bopeth ond hwylusdod
Yn Station Afon Wen.

Pan ddewch chwi o Gaernarfon,
Dros gefnen Pen y Groes,
Bydd train y llinell honno
Ar ol gryn hanner oes,
A phan bydd hwnnw'n ol-llaw
Yn Afon Wen yn cwrdd,
Bydd train Pwllheli'n flaenllaw,
Ac wedi mynd i ffwrdd.

Ond pan ewch o Fachynlleth,
I fynd i'r Afon Wen,
Bydd llinell fawr y Cambrian
Yn araf iawn dros ben;
Ac os am gael Caernarfon
Y bydd yn hwn ryw ffrynd,
Bydd train y llinell honno,
Cyn daw, yn siwr o fynd.

Mi welais ŵr bonheddig
Ryw dro yn Afon Wen,
A dwedai yn bruddglwyfus
Mewn trallod dros ei ben,—

"I want to have some shelter
To rest my weary bones,"
Ond nid oedd dim i'w ganfod
Ond dannedd Dafydd Jones.

Mae Afon Wen yn haeddu
Ei galw'n Afon Ddu,
Nid oes dim gwyn i'w ganfod
Pan ddeuir iddi hi;
Heblaw gwyn llygaid porters
Wrth dendio'r naill y llall,
Yn lle rhoi clust i'r teithwyr,
A rhoddi ateb call.

Mae llawer teithiwr enwog
Yn teithio'r wlad i gyd,
A'i goffrau yn ei ganlyn,
Heb drafferth yn y byd,
Ond llawer teithiwr cyflym,
Ga'dd waith i'w law a'i ben,
Wrth geisio cadw'i luggage
Yn Station Afon Wen.

Mae cannoedd byd o deithwyr
Yn glaf a llesg eu bron,
A pheswch sydd ar filoedd
Oherwydd bod yn hon;
" Rheumatic" sy'n eu coesau,
A'r—"Tic" sydd yn eu pen,
Oherwydd bod yn aros
Yn Station Afon Wen.