Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Y Teithiwr ar y Mynydd

Oddi ar Wicidestun
Berwi i Lawr Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Eisteddfod Enlli

Y TEITHIWR AR Y MYNYDD

YMGAUAI'R niwl, doi'r curwlaw i lawr,
A'r teithiwr ar y mynydd mawr
Ymhell o'i gartref cu;
'Roedd t'wyllwch dudew hanner nos
Yn cuddio pob rhyw seren dlos—
Y nef a'r llawr yn ddu;
Y t'wyllwch Aifftaidd o bob tu
Ddanghosai wyneb angau du
Yn syllu ar bob llaw;
Ond ha! Fe welai yn y fan
Ryw oleu bychan, llwydaidd, gwan,
Yn wincio oddidraw;
Ysgafnai'r galon gyda'i droed,
Cyfeiriodd yno yn ddioed,
Fe chwarddai'r goleu drwy y dellt
O'r ffenest dan y bondo gwellt;
Agorodd ddrws y bugail mwyn,
Cadd yno ddweyd ei gais a'i gŵyn,
Cadd groesaw cu, a thệ a thân,
A gwledda ar yr aelwyd lân.