Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Y llygod yn chwareu

Oddi ar Wicidestun
Y corwynt Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Yr eira

Y LLYGOD YN CHWAREU

MAE'R oenig fach yn chwareu
Yng ngwyneb melyn haul
A chwery'r awel deneu
Cydrhwng y llwyni dail,
Ac mewn mwynhad o hawddfyd,
A bochau gwridog, iach,
Ym more dydd ieuenctid
Fe chwery'r plentyn bach;
A dywed hen ddihareb
Na bu erioed ei bath,
Fod y llygod oll yn chwareu
Ar ol cael lle y gath.

'Rwy'n cofio'r ysgol ddyddiol
Ers llawer blwyddyn faith,
Pan fyddai'r meistr yn gweled
'Roedd pawb yn llawn o waith;
Ond pan ai'r meistr allan
Pob un a chwarddai wawd,
Gan edrych heibio'i gopi,
A'i drwyn ar ben ei fawd.
'Does neb fel plant yr ysgol
Am gastiau o bob math,
Mae'r llygod hyn yn chwareu
Ar ol cael lle y gath.

'Roedd meistr gynt yn cadw
Dwy forwyn gyda gwas,
Pan fyddai'r meistr gartref,
Hwy weithient gyda blas,

Ond wedi i'r meistr a'r feistres,
Y ddau i fynd i ffwrdd,
Caech weld y gwas a'r merched
O gylch y tân yn cwrdd ;
A wincient ar eu gilydd,
A chanai'r tri'r un fath;
Fe all y llygod chwareu
Ar ol cael lle y gath.

'Roedd dwy o ferched ieuainc
Gan Mr. Puw Llwyn Drain,
Pan fyddai'r tad oddeutu
Mor sobor fyddai rhain!
Ond pan ai'r tad o gartref
I edrych am ryw ffrynd,
'Roedd dau o lanciau'r ardal
Yn gwybod ple i fynd.
Ond chwareu têg i'r merched,
Bu llawer dwy run fath,
Mae'n rhaid i'r llygod chwareu
Ar ol cael lle y gath.

 Chwef. 11, 74.