Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Awn, Awn I'r Gad

Oddi ar Wicidestun
Ddaw Hi Ddim Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Eistedd Mewn Berfa

AWN, AWN I'R GAD

(Canig gan Gwilym Gwent)

Awn, awn i'r gâd,
Awn, awn yn awr;
Awn dros ein gwlad,
Awn, awn yn awr;
Calon y dewr
Gura yn gynt,
Baner a chledd
Sy'n chwyfio yn y gwynt;
Blaenor y llu
Sy'n arwain i glôd,
A geiriau o dân
O'i enau yn dod.

Seren y goncwest sy'n gwenu fry
Dros ein hanwyl wlad;
Cael tynnu'r cledd sydd wledd i ni.