Neidio i'r cynnwys

Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Fy Nghalon Fach

Oddi ar Wicidestun
Ffugenwau Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Tystebau

FY NGHALON FACH

Fy nghalon fach, paham mae'r wawr
I'w gweld fel hwyr y dydd,
A'r hedydd llon uwchben y llawr,
A'i gân mewn sain mor brudd?
Ateba fy chwyddedig fron,—
Mae rhywun ffwrdd tudraw i'r donn.

Fy nghalon lawn, mae'r rhod yn troi,
A'r rhew a'r eira'n dod,
Er hyn mae gŵg y gaea'n ffoi
Er oered yw yr ôd;
Mae'r gwynt yn sibrwd dros y ddôl
Fod rhywun hoff yn dod yn ol.