Neidio i'r cynnwys

Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Gruffydd ap Cynan

Oddi ar Wicidestun
Ysgydwad y Llaw Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Y Blodyn Gwywedig

HEN GAPEL LLANBRYNMAIR


"Cwsg, tra mae'r ser yn gwylio uwch dy lun,
O! dedwydd, dedwydd boed dy hûn"

GRUFFYDD AP CYNAN

Ar fore têg flynyddau'n ol,
Ffarweliodd Gruffydd gyda fi,
Wrth ysgwyd llaw dros gamfa'r ddôl,
Ein dagrau redent fel y lli;
Ysgydwai'i gledd yn nhrofa'r ffordd
I ddwedyd wrthyf ffarwel mud,
Tra'm calon innau megis gordd
Yn curo'n gynt, yn gynt o hyd.

Cychwynnai ef i'r rhyfel trwm,
I ganol erch elynol lu,
A chyda chalon fel y plwm,
Cychwynnais innau'n ol i'r tŷ;
Ond gyrrodd Gruffydd weddi fyw
Gynhwysai f'enw i i'r nef,
A chlywodd clust agored Duw
Fy ngweddi innau drosto ef.

Ar ddydd y frwydr trwy'r prynhawn,
Tra'r o'wn yn synfyfyrio'n ffôl,
Breuddwydiais freuddwyd rhyfedd iawn,—
Fod Gruffydd wedi dod yn ol;
Y bore ddaeth, a daeth y post,
Gan gludo newydd prudd dros ben,
Fod Gruffydd wedi'i glwyfo'n dôst,
Ag eisieu gweld ei eneth wen.

Cychwynais ato yn y fan,—
Ce's edrych ar ei welw rudd,—
Cyn hedeg o'i anfarwol ran
I weld ei Dduw mewn gwlad o ddydd;

"Ffarwel, fy ngeneth," ebai ef,
"Mae telyn yn fy nisgwyl i,
A honno, meddai engyl nef,
Y nesaf un i'th delyn di."

Nodiadau

[golygu]