Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Hen Adgofion

Oddi ar Wicidestun
Cynhwysiad Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Chwi Feibion Dewrion

PEN Y MYNYDD


"Ac yma nid oes dim a ddaw
Cydrhwng y dyn a Duw."

—————————————

HEN ADGOFION


O na chawn fynd yn ol ar hynt
Drwy’r adeg ddedwydd, iach,
I brofi y breuddwydion gynt
Pan oeddwn blentyn bach;
Cawn syllu eilwaith oriau hir
Ar flodau gwanwyn oes,
Ac ail fwynhau ei awyr glir
Heb gwmwl du na loes.

O na chawn dreulio eto’n llawn
Yr adeg lon, ddi-gur,
Pan gylch fy llwybrau fore a nawn
’Roedd blodau cariad pur;
Nid yw ond megis ddoe o’r bron
Im gofio ienctid ffol;
Ond dyma sydd yn rhwygo ’mron,
Ddaw’r adeg byth yn ol.