Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Purdeb

Oddi ar Wicidestun
Y 'Deryn Ysgafnaf Yn Uchaf Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Ddaw Hi Ddim

PURDEB

(Arddull T. Carew)

Y sawl a fynn y rudd sydd goch
A gwefus gwrel, llygad du,
Y gwddw gwyn, y rhosawg foch
I gynneu fflam ei gariad cu,—
Daw amser hen i wywo'r gruddiau,
A diffydd fflam ei lygad yntau.

Ond y meddwl tawel, pur,
Gyda ffyddlon dwyfron lân,
Calon gara fel y dur,
Hyn sy'n cynneu bythol dân;
Lle na cheir hyn, peth eithaf annghall
Yw caru llygad, boch, na grudd, nac arall.