Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Y Frwydr

Oddi ar Wicidestun
Eistedd Mewn Berfa Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Enwau

Y FRWYDR

Clywch, clywch
Y fyddin yn dod i'r gâd,
Uwch, uwch
Y cenir i gledd ein gwlad;
Calon a chleddyf i gyd yn ddur,
Rhyddid yn rhoi
Gelynion i ffoi
O flaen ein gwŷr.

Clywch y tabwrdd yn awr
Yn adseinio sydd,
Clywch floedd fychan a mawr
Wedi cael y dydd;
Mae gwawr eto'n dod yn y dwyrain dir,
Daw haul ar ein gwlad
Mewn hwyl a mwynhad,
Cawn heddwch cyn hir.