Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Y Llygaid Duon

Oddi ar Wicidestun
Mam Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Cwynai Cymru

Y LLYGAID DUON

(Y gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans)

Mae gloewder hanner dydd
Mewn llygaid gleision iach,
Ond llygaid duon sydd
Yn loewach dipyn bach;
Ac O! mae edrych arnynt hwy
Yn clwyfo ac yn gwella'r clwy'.

Fel mae y seren dlôs
Yn wincio fry uwchben,
Trwy d'w'llwch hanner nos,
Yn fantell dros y nen;
Fe wincia seren cariad cu
Trwy hanner nos y llygaid du.

Mae beirdd pob gwlad ac oes
Yn rhyfedd iawn fel hyn,
Yn gweld pob peth yn groes,—
Yn gweld y du yn wyn;
Pa dduaf bo y llygaid hardd,
Goleuaf yw yng ngolwg bardd.
Medi 21, '71.

Nodiadau[golygu]