Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Yr Heulwen

Oddi ar Wicidestun
Enwau Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Ffugenwau

YR HEULWEN

(Y Gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans)

Daw yr heulwen a'i gusanau,
Iechyd chwardda yn y gwynt,
Cymyl sydd fel heirdd lumanau
Bron a sefyll ar eu hynt;
Gawn ni fynd a'r haf o'r gweunydd,
Dwyn cusanau'r haul yn llu,
Ar ein bochau gwridog beunydd,
I addurno cartref cu?

Dringwn fry i gartre'r hedydd,
Chwarddwn, neidiwn megis plant,
Lle mae'r cwmwl yn cael bedydd
Yng ngrisialaidd ddwfr y nant;
Canwn gerddi a dyrïau,
Casglwn flodau gwyllt y wlad,
Ac mi gadwn y pwysïau
Harddaf oll i'n mam a'n tad.