Neidio i'r cynnwys

Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Cusan Cyntaf Cariad

Oddi ar Wicidestun
Y Cariad Cudd Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Mary, anwyl Mary


CUSAN CYNTAF CARIAD.

YN y pant is law y Gorllwyn,
Ar brydnawnddydd yn y Gwanwyn,
Y disgynnodd gynta rioed
Gusan cariad yn ei draswyn
Ar fy ngwefus bymtheg oed,
Fel y gwlith ar y coed;
Nid mewn mwyniant nac mewn alaeth,
Nid yng nghyfyng awr marwolaeth,
Nid tra 'm henaid mewn bodolaeth,
Yr anghofia 'r pryd a'r llwyn,
Man y profais gyntaf odiaeth
Fin fy ngeneth fwyn.

Dan y dderwen las dywyll-frig,
Yn swn odlau per afonig
Yr eisteddem ar y glân
Laswellt a'r blodeuos mân,
Mewn ymddiddan melus diddig;
Pur a gwresog fel y tân
Oedd ein calon ni bryd hynny,
Tyner fel y briaill o'n deutu,
Heb na'i suro na'i chaledu
Gan oerwyntoedd blwyddi hŷn;
O na byddem felly eto
Mor ddedwydd ac mor gun.

Cydiais yn ei llaw angylaidd,
Gwasgodd hithau 'n ol yn fwynaidd,
Yna rhuthrodd idd ei phryd
Dân ei henaid yn ei gwrid.
Dyblu wnaeth curiadau euraidd
Ein mynwesau 'nghyd.

Anorphenedig, 1876.

[Flynyddoedd wedyn, pan yn dihoeni mewn alltudiaeth,
gorphennodd y gan fel hyn,—]


Am ei gwddf fy mraich a blethais,
Min at fin yn fwyn a dynnais,
Ac ym myw ei threm edrychais,
Yna,-beth, O Awen gu?
Nid oes ateb. Mud yw'r Awen,
Mud uwchben a fu.

Eto ganwaith pan yn gwylio
Tegwch dydd o'r nen yn cilio.
Ar edyn cof angyles ddaw
I'm cyfeillach oddidraw,
Eistedd eto wrth fy ochr,
Gwasga eto'm llaw;
Ac a'r deigryn yn.ei llygad,
Ac a'i gwedd yn llawn o gariad,
Lleddfa bwys fy mynwes egwan,
Par i'm calon guro'n rhydd,
A chyn ffarwel dyry gusan
Eto ar fy ngrudd.

Beth daearol na ddirymir?
Pa swyn adgof na ddifwynir?
Cartref mebyd, ffrindiau fu,
Hoff brydferthion Gwalia i mi;
Mwswg amser arnynt welir
Mwyach ar bob tu.
Ond nid mewn mwyniant nac mewn alaeth,
Nid yng nghyfyng awr marwolaeth,
Nid tra'm henaid mewn bodolaeth
Yr anghofia 'r awr a'r llwyn
Man y profais gyntaf odiaeth
Fin fy ngeneth fwyn.


Nodiadau[golygu]