Neidio i'r cynnwys

Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/O fy Nhad

Oddi ar Wicidestun
Y Gwanwyn i'r Amddifad Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Darlun Trigfan yr Awen


O FY NHAD.

FY nhad, fy anwyl dad,
A wyt ti
O uchelder dy fwynhad
Arnaf fi
Eto'n sylwi, megis pan
Yr ymddringwn er yn wan
Ac yn flin,
I'm hoffusaf sicraf man
Ar dy lin?

O fy anwyl, anwyl dad,
A wyt ti
Eto'n gwenu dy foddhad
Arnaf fi,
Tra yn hwylio tua glan
Lestr fy nghymeriad gwan
Ar hyd aig
Bywyd, a beryglir gan
Lawer craig?

O fy nhad, fy anwyl dad,
A wyt ti
Eto'n gwgu dy dristad
Arnaf fi
Pan, yn nwyfiant hy fy oed.
Y bwy'n sathru dan fy nhroed
Ddeddfau Duw,
Fu i ti yn gyson nod
Yn dy fyw?

Credu'r ydwyf fi dy fod,
A'th fod di
'Nawr yn ddyfnach nag erioed
Gyda mi,

'N cydymdeimlo pan yr wy
'N methu'n lân a gweled drwy
Nifwl du

Oes-amheuon, nad ynt mwy
Niwl i ti.
O fy nhad, a wyddost bryd
Y caf fi
Ddianc rhag gofidiau byd
Atat ti?
A raid imi fod yn hir
Dan fy nghroes yn dwyn fy nghur
Heb im hedd?

Ai gerllaw mae angof dir
Cynnar fedd?
Blwyddi bellach sydd er pan
Roisom ni
'Th gorff yn nwfn dawelwch llan
Ger y lli;
Eto'm hiraeth sy'n dwyshau
Fel mae'r adeg yn neshau
Pan gaf fi
Ddianc fry o'm pabell frau
Atat ti.



Nodiadau

[golygu]