Neidio i'r cynnwys

Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Swn y Môr

Oddi ar Wicidestun
Hanes Bywyd Robert Owen Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I Mary


ROBERT OWEN.
I.-SWN Y MOR.


SWN Y MÔR.

Omor hoff yw gennyf gerdded
Glan y môr!
Ac mor anwyl gennyf glywed
Swn y môr!
Mwyn-gan ddwys yr afon fechan
Wrth ymdreiglo dros y graian
Sydd yn hoff, ond nid fel prudd-gan
Swn y môr.

Man fy ngenedigaeth ydoedd
Min y môr;
Y swn a'm suodd gyntaf ydoedd
Swn y môr;
Mae fy ysbryd wedi helaeth
Yfed chwerwder ei alaeth,
Cyfran heddyw o'm bodolaeth
Ydyw swn y môr.

Pan o ddwndwr byd yn cilio
I lan y môr,
Yno am orffwysdra i chwilio
Yn swn y môr,

Cefais lawer tawel ennyd
Hamdden i fyfyrio bywyd
Draw ymhell o'i dwrf terfysglyd,
Yn swn y môr.

Dan archollion brathol siomiant
Awn i lan y môr,
Yno i chwilio am ddyhuddiant
Yn swn y môr;
Dywedyd, yn ei ddull difrifol,
Nad yw gwynfyd yn arosol,
Ac mai gwagedd popeth dynol,
Mae swn y môr.

Tra ar lawr dan drallod ingol
Profedigaeth ddu,
Wedi colli'n anamserol
Un o'm rhiaint cu,
Nid adfydus gwyneb hudol
Anian, er fy ngofid mabol,
Canys gwenai gwanwyn siriol
Ar bob tu.

Ond gwell na'i gwên oedd gennyf ruad
Min y môr,
Yno cefais gydymdeimlad
Swn y môr,
Gwendon gref yn dilyn gwendon
I guriadau prudd fy nghalon,
Gan dragwyddol ruddfan undon
Min y môr.

O mor hoff yw gennyf gerdded
Glan y môr,
Ac mor anwyl gennyf glywed
Swn y môr!


GER ABERMAW,

Ger Llyn Penmaen, ar gyfer Llwyn Gloddaeth.[H. Owen.


Saith o'm brodyr a chwiorydd
Sydd yn gorwedd gyda'u gilydd
Ym mhriddellau mynwent lonydd
Ar fin y môr.

Ac yn gorffwys yn Llanaber,
Ar fin y môr,
Mae fy nhad, fy rhiant tyner,
Yn swn y môr,
Ar yr anial wedi blino;
Digon i'w weddillion yno
Bellach fydd cael tawel huno
Yn swn y môr.

A phan ddaw'r dydd y'm gwysir innau
I'r beddrod oer,
Cladder fi, fel fy nghyndadau,
Ym min y môr;
Wedi gorffen blinwaith bywyd,
Yno llechaf dan y gweryd,
Draw o swn enllibion drygfyd
Yn swn y môr.



Nodiadau[golygu]