Gwaith S.R./Cyfarchiad ar Ŵyl Priodas

Oddi ar Wicidestun
Y Ddau Blentyn Amddifad Gwaith S.R.

gan Samuel Roberts (S.R.)

Dinystr Byddin Sennacherib

CYFARCHIAD AR WYL PRIODAS

Tangnefedd a ffyniant, diddanwch a chariad,
Fo rhwymyn a choren eich undeb anwylfad;
Ymleded eich pabell dan wenau Rhagluniaeth,
A'ch epil fo'n enwog dros lawer cenhedlaeth.
Disgleiried eich rhinwedd. A gwneled yr Arglwydd
Eich cylchoedd yn fendith, a'ch ceraint yn dedwydd:
Estynned eich dyddiau i fod yn ddefnyddiol;
Ei eglwys fo'ch cartref, Ei air fyddo'ch rheol.
A rhodded Ei Ysbryd diddanol i'ch tywys
Trwy dd'rysni yr anial i'w nefol baradwys.