Gwaith S.R./Rhagymadrodd
← Gwaith S.R. | Gwaith S.R. gan Samuel Roberts (S.R.) |
Cynhwysiad → |
GWAITH SAMUEL ROBERTS. (S. R.)
Rhagymadrodd
Ganwyd Samuel Roberts yn Llanbrynmair, Mawrth 6, 1800. Bu farw yng Nghonwy, Medi 24, 1885; ac ym mynwent gyhoeddus Conwy y rhoddwyd ef i huno.
O'r Diwygiad y cododd teulu galluog S. R. Yr oedd ei dad, John Roberts, er 1798 yn olynydd i Richard Tibbot a Lewis Rees fel gweinidog Hen Gapel Llanbrynmair. Dyma enwau aelodau mwyaf adnabyddus y teulu,—
Symudodd John Roberts a'i deulu, tua 1806, o Dy'r Capel i ffermdy y Diosg dros yr afon ar gyfer. "Tyddyn bychan gwlyb, oer, creigiog, anial, yng nghefn haul, ar ochr ogleddol llechwedd serth" oedd y Diosg; ac efe yw Cilhaul.
Daeth S. R. yn gynorthwywr i'w dad fel gweinidog yn 1827; dilynodd ef fel tenant y Diosg yn 1834. Cyn 1856, yr oedd y brodyr wedi penderfynu gadael Llanbrynmair,—aeth J. R. yn weinidog i Ruthyn, a hwyliodd S. R. a Gruffydd Rhisiart i'r America. Cychwynodd S. R. o Lerpwl Mai 6, 1857; cyrhaeddodd yno'n ol Awst 30, 1867. Yr oedd wedi ei siomi yn y gorllewin ac wedi troi ei gefn ar dŷ ei alltudiaeth,—Bryn y Ffynnon, Scott Co., East Tennessee. Cafodd ei dwyllo gan y rhai oedd yn gwerthu tir; darlunnir hwy ym Martin Chuzzlewit Dickens. Nid oedd wedi sylweddoli, hwyrach, mor erwin yw'r ymdrech mewn gwlad anial. A daeth y Rhyfel Cartrefol i andwyo ei amgylchiadau. Teimlai fod y ddwy ochr i'w beio, ac mai dyledswydd y Gogledd oedd talu pris rhyddhad y caethion i wyr y De.
O 1867 ymlaen ail ymunodd y teulu, a bu'r tri brawd byw yn yr un cartref yng Nghonwy hyd nes y cludwyd hwy i'r un fynwent.
Ychydig iawn oedd yn fwy adnabyddus nag S. R. yn ei ddydd yng Nghymru. Bu ef a'i frodyr mewn llu o ddadleuon,—y mae y gornestwyr oll wedi tewi erbyn hyn,—a gwnaethant lawer i ddeffro gwlad. Bu ei Gronicl yn foddion addysg i filoedd. Bu ef ei hun yn llais i amaethwyr Cymru, ac yn llais i werin yn erbyn gorthrwm o bob math. Cyhoeddwyd cofiant am dano ef a'i frodyr yn y Bala, gan y Dr. E. Pan Jones.
Wele ddwy ran nodweddiadol o'i waith. Bu y Caniadau yn hynod boblogaidd; y teulu yn Llanbrynmair yw'r "Teulu Dedwydd." Hwy hefyd yw teulu "Cilhaul," ac y maent y darlun goreu a chywiraf o ffermwyr Cymru dynnwyd eto.
Llanuwchllyn,
- Awst 1, 1906.