Neidio i'r cynnwys

Gwaith Sion Cent/Balchder

Oddi ar Wicidestun
Y Saith Weithred o Drugaredd Gwaith Sion Cent

gan Siôn Cent


golygwyd gan Thomas Matthews
Edifeiriwch

XXXII.

BALCHDER.

PERYGL rhyfel rhyfeliwn,
A pha fyd hefyd yw hwn?
Byd ymladd cas à glâs gledd,
Byd rhyfalch a byd rhyfedd;
Ni edwyn brawd, cenawd call,
Bryd eirian y brawd arall;
Anwylach gilfach gelyn,
Yw'r da o'r hanner na'r dyn;
Oherwydd y ddihareb,
Gwyl Nudd ni bydd hael neb."
Duw, pa wlad newidiad noeth
Y ganed balchder geunoeth?
Pam y bydd balch ddyn calchliw,
Ffraethed er teced i ffriw?
Os o'i dda, nis ai ddyn,
Diffrwyth islaw y dyffryn;
Os o'i grefft is y grafftydd,
Rhyw oer fost rhy ofer fydd;
Os o'i gryfdwr, filwr faint,
Is gorallt; os i geraint;
Tremyg gan filwr tramawr,
Dir fydd golli daear fawr;
A gadu chwedl di led-laes,
Golud gwr mud ar y maes;
Caffael crys difelys fath,
Dilys o lai na dwylath;
Cychwyn i'r llan gyfannedd,
Ar i farch tra oer i fedd;
Yn ol gwin rhoi anwyl gâr,
I'w ddiwedd tan y ddaear;
A'i genedl yn i gwynaw,
Y rhawg a'i orchudd â rhaw,

Poenwr dwys penna yw'r dyn,
Dwys orchwyl nad oes erchwyn
Ina ond daear unig,
I ddal dyn i ddial dig;
Y ddaear ddwys yn pwyso.
A'r grudd yn ymwasg a'r gro,
Sydd o ddyn, er yn oes Adda;
A roes Duw, dyma ras da,—
Daear yw'n tad diryw oer,
Y ddaear yw'n mam dduoer;
O'r ddaear noeth y daethom,
A ffawd tost ydyw'r ffrost ffrom;
I'r ddaear, dda wâr dyddyn,
Ydd â, a aned o ddyn.

Pan nad ystyr poen distadl,
Pendefig urddedig ddadl,
Pan egorer, poen geiriad,
Fedd y gŵr a feddai gad,
Yno gwelir di-hirwallt,
Y dyn a roed dan yr allt;
In noeth i wen a'i benguwch,
Y llaw a aeth fel y lluwch;
Heb gler i'w galyn, heb glod,
Heb arfau dur, heb orfod;
Heb asau, heb fwnau fân,
Heb aros ffair, heb arian;
Heb lin, heb Elin f'anwylyd,
Heb ddawn barch, heb dda'n y byd,
Heb wyn-gnawd chwerw dafawd-chwyrn,
Na disgwyl dim ond esgyrn;
A hyn o son ymhen saith,
Y daw annerch diweniaith;
Afraid i ddyn cyndyn call,
Eiriach i dda i arall.

GROSMONT.

Lle'r hun Sion Cent.


Nodiadau

[golygu]