Neidio i'r cynnwys

Gwaith Sion Cent/Dewis Bethau Sion Cent

Oddi ar Wicidestun
Cynhwysiad Gwaith Sion Cent

gan Siôn Cent


golygwyd gan Thomas Matthews
Cywydd Brud

GWAITH SION CENT.

I.

DEWIS BETHAU SION CENT.

MYFYR encilgoed,
Trem serchog,
Wynepryd siriol,
Boddlondeb i'r byd a fo.

Cof am går a chyfaill,
Hoffi rhagor-gamp,
Blasu y bwyd a fo.

Ymddwyn syber,
Hunan hyder hybwyll,
Hunan ofnocrwydd,
Cyfanred ymgais,
Ymorheula pen mynydd,
Ymwerfela caead-lwyr,
Gwrthruthro rhuthr.

Teuluwr gwybod-bell,
Canmoliaeth cydwybod,
Caru a garo,
Maddeu a gasao,
A Duw yn maddeu i bawb.


Nodiadau

[golygu]