Neidio i'r cynnwys

Gwaith Sion Cent/Dioddefaint yr Iesu

Oddi ar Wicidestun
Y Grog ym Merthyr Gwaith Sion Cent

gan Siôn Cent


golygwyd gan Thomas Matthews
Mair

XV.

DIODDEFAINT YR IESU.

LLYMA fyd cyd cadarn,
A diwedd byd yw dydd barn.
Rhaid i bawb, cyn rhodio bedd,
Goelio i Dduw gael 'i ddiwedd;
A galw ar Grist yn ddistaw
Am râs a ffydd, ddydd a ddaw;
A galw eilwaith rhag gelyn,
A chredu Dduw Iesu wyn;
Credu'r Tad yn anad neb,
Pae'n ddoeth, un pen ddoethineb;
Goreu hwyl geiriau helyth,
Credu'r gŵr fry bery byth.
Ni phery dyn, offer dig,
Uwch adwy ond ychydig;
Darfod yr wyf ar derfyn,
Gorwedd yw diwedd pob dyn;
Ddoe'n wan, heddyw'n wannach,
Rhyw dwyll, neu hud, yw'r byd bach;

Yfory mewn oferedd,
A thrennydd y bydd 'n y bedd;
A nawcant, meddant i mi,
O bryfaid yn i brofi.
Yr enaid ni wyr yna,
Ba du ar ol byd yr â;
Ai i'r purdan difan dall,
Ai bennawr i boen arall.

Nid oes nerth ag a berthyn,
Onid Duw i enaid dyn;
Iesu, wrth gyfraith Moesen,
Awr bryd, a'n prynawdd ar bren;
Godde' 'naeth, y gwiw-Dduw Ner,
Gwanu'i gorff, dduw Gwener;
I brynu dyn a bron donn,
Gwedi cael gwaed o'i galon.
Ni ddiodde dyn er Duw,
Nid modd y dioddefodd Duw,
Hoeliaw 'i ddwylaw ryw ddydd,
Hoeliaw draed ar hoel drydydd;
Coronwyd mewn cur yno,
Boeni o'r drain a'i benn ar dro:
Dwy noswaith, bu Duw'n Iesu,
Yn y bedd addwyn y bu;
A'r trydydd yn wr tradoeth
O garchar daear y doeth;
Ag yno'r aeth, bennaeth barn
Barth offys, i borth uffern,
Ag a dynnodd, naw-rodd Ner,
I nefoedd yr holl nifer;
Tynnodd Addaf a Dafydd,
A Moesen a phen y ffydd;
Tynnodd Abram lan a'i lu,
A Noe hen gyn no hynny.

Pwy yn ôl a ddug dolur,
Er tynnu pawb o'r tân pur,
Os diraid haint ystrydyn,
Ond Iesu Dâd? Nid oes dyn
Ag i Dduw y gweddiaf
A'i fron yn donn, Frenin Dâf.

Nodiadau

[golygu]