Gwaith Sion Cent/Enw Duw
Gwedd
← I'r Iesu | Gwaith Sion Cent gan Siôn Cent golygwyd gan Thomas Matthews |
I Dduw → |
XX.
ENW DUW.
Duw Tri,, Duw Celi, coeliwn,—Dâf, Eli,
Dwyf eilwaith, da folwn;
Gwiw Ner, i glod a ganwn,
Arglwydd Dad, mawr gariad, gwn.
Ener, Muner, Ner, Naf ydyw,—heb au
Pob bywyd a wneddyw;
Cynnon nebun nis cenyw,
Modur y byd, am du'r byw.
Iôr, Pôr, puraf Iâf, iawn weithiau,—Deon
Yn deall calonnau;
Huon, Iôn, goreu i ddoniau,
Duw, Dofydd mawr, Ionawr, Iau.
Crist, Rhion, Dafon difeth,—Creawdur
Cariadawl i achreth;
Mab Mair, dianair eneth,
Pab byd yn peri pob peth.
Pannon ar Ganon gannaid,—i gelwir,
Da gwelwn ef o'n plaid;
O, I, ac W yw a gaid,
Oiw beunydd i bob enaid.